
'Heddlu arfog yn sefyll y tu allan i ysgol Sul oherwydd bod plant o Israel yn mynd yno'
Dyma ddarn barn gan Yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, mewn ymateb i'r ymosodiad terfysgol ar synagog ym Manceinion yr wythnos hon. Yn ogystal â bod yn ddarlithydd mewn astudiaethau ffilm, mae'r Athro Abrams yn perthyn i'r gymuned Iddewig yng ngogledd Cymru, ac yn aml i'w weld a'i glywed yn sylwebu ar faterion crefyddol ar deledu a radio.
Roedd y newyddion o Fanceinion wythnos diwethaf yn syfrdanol, ond nid oedd yn syndod i mi.
Nid oedd erioed yn gwestiwn o os fydd hyn yn digwydd, ond pryd fydd hyn yn digwydd.
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli hynny, ond mae sefydliadau cymunedol Iddewig – synagogau, ysgolion, meithrinfeydd, ie meithrinfeydd – ymhlith y lleoedd mwyaf gwarchodedig ym Mhrydain.
Pan oeddwn i'n byw yn Llundain, roedd heddlu arfog yn sefyll y tu allan i ysgol Sul oherwydd bod plant o Israel yn mynd yno. Pa fath o gymdeithas ydym ni wedi dod fel bod angen gwarchod ysgolion a meithrinfeydd dim ond oherwydd bod Iddewon ac Israeliaid yn eu defnyddio?
Dyma ganlyniad casineb hirhoedlog sy'n treiddio i gymdeithas Prydain ac wedi gwneud hynny ers cannoedd o flynyddoedd.
Roedd Iddewon yn bodoli ymhell cyn i unrhyw rai gael eu gweld mewn bywyd go iawn ym Mhrydain. Roedd sibrydion am ganibaliaeth Iddewig wedi lledaenu ar draws y byd paganaidd, lle gwnaeth monotheistiaeth Iddewon, ynghyd â'u gwrthodiad o aberth dynol, eu gwneud yn ffenomen ddryslyd.

O dan y brenhinoedd Eingl-Normanaidd, cafodd Iddewon eu trethu'n drwm, eu herlid, a'u gorfodi i wisgo bathodynnau adnabod – dyna lle cafodd y Natsïaid y syniad o'r seren felen yn yr ugeinfed ganrif – a'u heithrio o'r bwrdeistrefi Edwardaidd newydd yng Nghymru, cyn cael eu diarddel o'r wlad gyfan yn 1290. Yn gyfreithiol, parhaodd y gwaharddiad mewn grym, ac ni chaniatawyd i Iddewon ddychwelyd tan 17eg ganrif.
Er eu bod yn absennol o Brydain mewn unrhyw ystyr gorfforol go iawn, roedd Iddewon yn bresennol fel adeiladwaith dychmygus, testunol.
Roedd syniadaeth gyffredin o ddelweddau ac agweddau a etifeddwyd o Gristnogaeth hynafol yn cynnwys Iddewon fel pobl a gafodd eu gwrthod gan Dduw, yn euog o lofruddiaeth Crist. Roedd casineb Iddewig yn dreiddiol, gan dreiddio'r diwylliant trwy ei gylchrediad mewn pregethau a delweddau crefyddol, gan lygru pob agwedd ar fywyd canoloesol.
Dros yr 17eg a'r 18ed ganrif, roedd Protestaniaid yn honni eu bod yn philosemitaidd, ond roedd eu cariad honedig at Iddewon yn cuddio eu hymrwymiad i'n trosi ni i gyd fel rhagflaenwyr i ddychweliad Crist. Ers hynny, mae gwrth-Iddewiaeth Gristnogol wedi trawsnewid yn wrth-Semitiaeth hiliol a sefydliadol.
Cynlluniwyd Deddf Estroniaid 1905 yn benodol i atal Iddewon rhag ymfudo i Brydain. Yn Nhredegar, yn 1911, fe ymosodwyd ar Iddewon gan ddifrodi eu siopau yn yr hyn a alwodd Winston Churchill yn "pogrom".
'Iddewon yn ysgwyddo'r bai'
Mae gwrth-Semitiaeth asgell dde wedi parhau, ond yn fwy diweddar mae wedi trawsnewid ymhlith y rhai ar y Chwith yn wrthwynebiad gelyniaethus i Seioniaeth a Gwladwriaeth Israel, wedi'i waethygu gan ryfeloedd yn 1948, 1967, 1973, a 1982 a'r gwrthdaro parhaus rhwng Israel a'r Palesteiniaid.
A phan fydd unrhyw beth yn digwydd yn y Dwyrain Canol, mae Iddewon ledled y byd yn gwybod y byddant yn ysgwyddo'r bai, y byddant yn dod yn dargedau. Mae Iddewon yn cael eu cysylltu'n syth gydag Israel – waeth beth fo'u barn gwleidyddol neu eu perthynas â'r wladwriaeth – gan ddefnyddio'r honiad ffug bod Netanyahu yn ei wneud, mewn ffordd nad yw'n ddigwydd gyda grwpiau eraill. Ydyn ni'n beio pob Americanwr am Trump?

Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn dilyn digwyddiadau 7 Hydref 2023 a goresgyniad Israel ar Gaza o ganlyniad. Mae nifer y grwpiau a'r gweithgareddau sy'n gefnogol o'r Palesteiniaid – protestiadau, gwersylloedd a gweithredoedd eraill – wedi cynyddu'n sylweddol.
O fewn wythnos roedd digwyddiadau wedi eu trefnu ym mhob tref a dinas fawr, a llawer o bentrefi, o'r gogledd i'r de ac o'r dwyrain i'r gorllewin, roedd cefnogaeth fawr gan groestoriad eang o gymdeithas Prydain.
Mae gelyniaeth yn y digwyddiadau a'r protestiadau o blaid Palesteina – ymddygiad ymosodol a'r diffyg tosturi (neu o leiaf, tosturi a ddangosir i un ochr yn unig) – yn llifo i fywydau go iawn. Mae digwyddiadau gwrth-Semitiaeth yng Nghymru yn unig wedi codi 338%.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng ngogledd Cymru, lle, roedd dim ond pum digwyddiad yn 2022, fod 36 o ddigwyddiadau gwrth-Semitiaeth wedi'u hadrodd yn 2023, gan gynnwys yr unig ddau ymosodiad a adroddwyd ledled y wlad. Blwyddyn yn ddiweddarach fe gafodd 46 o ddigwyddiadau eu hadrodd ledled Cymru yn 2024. Y gwir ydi, mae Iddewon ym Mhrydain yn wynebu cyhuddiadau o ladd Palesteiniaid a chefnogi hil-laddiad.
Nid yw gwrthsemitiaeth gorfforol, llafar, ysgrifenedig neu ar-lein yn cyfleu effeithiau bywyd go iawn ar Iddewon yn llawn.

Yn yr hyn y gellid ei alw'n wrthsemitiaeth "amgylchynol" – posteri wedi'u difrodi neu eu rhwygo i lawr, sticeri, adroddiadau cyfryngau, sylwadau ar-lein, gwrthdystiadau cyhoeddus, ac ati – boed yn wrthsemitaidd eithafol ai peidio, yn creu amgylchedd cyffredinol y mae llawer o Iddewon yn ei chael yn anghyfforddus, yn sarhaus, yn ein dieithrio, yn frawychus neu'n hollol elyniaethus.
Mae Iddewon yn adrodd eu bod yn teimlo'r tymheredd yn gostwng gradd neu ddwy pan fyddant yn datgelu eu bod yn Iddewon. Neu maent yn meddwl ddwywaith cyn sôn eu bod yn Iddewon.
Ym Mangor, lle rwy'n byw, dywedwyd wrth fy merch 12 oed gan ddisgybl arall yn ei hysgol Gymraeg a oedd wedi ymweld â gwersyll yn Gaza i "roi'r gorau i ladd babanod". Mae busnes Israelaidd yn y ddinas wedi ei dargedu.
A phan ddatgymalodd rhai Iddewon di-glem oedd ar wyliau yn yr ardal dros yr haf, groes Iesu Grist oedd ar y Gogarth, gan wneud siap o'r Seren Dafydd, fe gafodd y weithred ymateb gan lu o sylwadau rhagfarnllyd ar-lein a ddatgelodd fod casineb cuddiedig yn bodoli o dan yr wyneb.
Mae'n bryd i hyn ddod i ben. Er bod Prydain yn darparu un o'r amgylcheddau mwyaf diogel i Iddewon fyw ynddynt heddiw, mae hyn yn teimlo'n gynyddol fregus, ac ni ellir caniatáu i hunanfodlonrwydd ddod i mewn.
Roeddwn i bob amser yn casáu'r rhigwm hwn, "Gall ffyn a cherrig dorri fy esgyrn, ond ni fydd enwau byth yn fy mrifo", oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n dechrau gyda galw enwau ac yn gorffen mewn llofruddiaeth.