Aled Siôn Davies yn cipio'i seithfed fedal yn olynol ym mhencampwriaethau'r byd

05/10/2025
Aled Sion Davies

Mae'r Cymro Aled Siôn Davies wedi cipio ei seithfed fedal yn olynol ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd yn New Delhi, India.

Wrth gystadlu yn y gystadleuaeth taflu maen F63 fel aelod o dîm Prydain Fawr, taflodd dros bellter o 16.44m yn ei bumed ymgais i orffen o flaen Faisal Sorour o Kuwait, a gipiodd y fedal arian gydag ymdrech o 16.28m.

Ac yntau wedi ennill teitl pencampwriaeth byd 11 o weithiau, dywedodd Davies bod y fuddugoliaeth yn "eithaf swreal i fod yn onest".

"Mae Faisal yn dod ymlaen ac mae wedi bod yn fy ngwthio, ond dydw i ddim wedi gallu ymateb iddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai wrth BBC Sport.

"Mae'n teimlo'n dda bod yn ôl ond rwy'n dal i deimlo bod cymaint mwy i ddod."

Fe wnaeth Davies golli cyfle i ennill ei bedwaredd fedal aur yn olynol yn y Gemau Paralympaidd y llynedd, gan ddod yn ail i Sorour.

Maen nhw'n cystadlu yn y categori F63 sydd ar gyfer athletwyr sydd wedi torri un goes i ffwrdd uwchben y pen-glin ac sy'n defnyddio prosthesis. 

'Anelu at Gemau LA'

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Davies wedi bod yn dioddef o gyflwr osteitis pubis sy'n achosi poen yn y gafl. 

Er gwaethaf ei heriau iechyd, mae'r gŵr o Ben-y-bont wedi addo torri ei record byd ei hun yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles yn 2028.

"Ar ôl torcalon y llynedd, a phoen y pedair neu bum mlynedd diwethaf oherwydd fy anafiadau, nes i dderbyn bod angen i mi gael ambell atgyweiriad," meddai.

"Roedd yn rhaid i fy nghlun gael ei ailadeiladu a ges i wybod efallai na fyddwn i'n dod nôl i'r un safon ag o'r blaen.

"Dw i wedi gwneud hynny. Dw i wedi dod nôl, wedi ailadeiladu yn dawel bach a dw i wedi dod yma a chystadlu eto.

"Dw i'n anelu at LA. Dw i'n mynd i dorri fy record byd."

Llun: Aled Siôn Davies

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.