Ysgrifenwyr teledu yn sensro eu gwaith eu hunain meddai Russell T Davies

Russell T Davies

Mae'r dramodydd Russell T Davies wedi dweud yng ngwobrau BAFTA Cymru bod angen i ysgrifenwyr teledu beidio sensro eu gwaith eu hunain am eu bod yn poeni na fydd yn gweld golau dydd.

Wrth dderbyn y wobr am gyfraniad aruthrol i deledu yn seremoni nos Sul dywedodd Russell T Davies fod teledu yn mynd yn "ddof" pan mae amseroedd yn heriol.

Dywedodd ar y llwyfan ei bod hi'n anodd delio gyda phobl sydd yn gweithio yn yr adran cydymffurfio'r dyddiau hyn ond nad oedd o yn beio'r unigolion yma.

"Dwi'n beio eu penaethiaid am fod yn ofnus," meddai. "Ac fe allai deimlo hyn yn digwydd, dwi yn llythrennol wedi profi hyn. 

"Mae'r adran cydymffurfio yn bod yn galed. 'Allwch chi ddim dweud hyn, allwch chi ddim dweud llall, mae'n rhaid cael cydbwysedd.' 

"Na does dim rhaid cael ff****** cydbwysedd. Fe allwch chi jest fod yn gryf a dweud yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud."

'Rhaid cynnau'r fflam'

Ychwanegodd mai dyna pryd mae sensoriaeth yn digwydd. "Daw'r sensoriaeth ddim gan y llywodraeth, neu'r awdurdod ond gennym ni. Dyna pryd rydyn ni yn eistedd lawr ac yn dweud, 'O fyddan nhw ddim yn hoffi hwnna, o alli di ddim gwneud hynny, alli di ddim dweud hynna'."

Dywedodd bod y sensoriaeth yma yn bodoli nid yn unig ar gyfer dramodwyr ond ysgrifenwyr ym mhob genre teledu. "Dyna'r math gwaethaf o sensoriaeth sy'n bodoli am ei fod yn sensro syniad cyn bod e hyd yn oed yn cael ei ddangos i unrhyw un."

Yn ôl Russell T Davies sydd wedi ysgrifennu dramâu poblogaidd fel Doctor Who, Years and Years ac It's a Sin mae angen i'r cyrff darlledu fel y BBC, ITV a Channel 4 fod yn gryf. Mae yna berygl meddai yn dod tuag aton ni fel yr hyn sydd yn digwydd yn America.

Yno mae'r llywodraeth meddai yn ymosod ar y cyfryngau gyda phobl yn colli swyddi. 

"Mae'n dod ffordd hyn. Mae hynny yn ffaith," meddai.

"Ac mae teledu ar ei orau, mae'n goelcerth, mae'n oleudy, yn ffagl argyfwng, yn olau yn y tywyllwch, mae'n cynnau'r fflam ac yn sefyll yn gryf ar gyfer y gwir ac yn rhoi cip ar rywbeth, yn ddoethineb, yn gyfiawnder ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydy'r fflam yna yn diffodd." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.