‘Wedi colli pob hyder’: Amy Dowden yn emosiynol ar ôl pleidlais Strictly
Mae Amy Dowden wedi dweud mai “hapusrwydd a bod yn fyw” sy’n bwysig ar ôl iddi hi a’i phartner dawnsio Tom Skinner adael Strictly Come Dancing ar ôl pleidlais gyntaf y cyhoedd nos Sul.
Roedd y ddawnswraig o Gaerffili yn 32 oed pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2023.
Fe wnaeth hi ddychwelyd i gyfres Strictly yn 2024, ond roedd yn rhaid iddi gamu 'nôl ar ôl anafu ei throed.
Dyma’r wythnos gyntaf yr oedd modd i’r cyhoedd bleidleisio gan roi Amy Dowden a Tom Skinner ar waelod y tabl gyda chyn gapten Lloegr, Chris Robshaw a’i bartner dawnsio Nadiya Bychkova.
Wrth golli pleidlais y cyhoedd nos Sul dywedodd Amy Dowden yn ddagreuol bod y “blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd” a’i bod hi wedi “colli pob hyder fel dawnsiwr”.
Ond diolchodd i’w phartner dawnsio Tom Skinner gan ddweud eu bod nhw wedi “chwerthin cymaint ag wedi gweithio mor galed”.
“Rydyn ni'n cerdded i mewn i'r ystafell gyda gwên enfawr a chwerthin,” meddai. “Rwyt ti wedi fy adfer i felly diolch yn fawr iawn.
Ychwanegodd: “Fe fyddai ennill y bêl gliter [y brif wobr] wedi bod yn anhygoel.
“Ond yr hyn ydw i wedi'i ddysgu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod hapusrwydd, iechyd, bod yn fyw, yn bwysicach nag unrhyw beth, ac mae gen i ffrind newydd am oes.
“Ac a bod yn onest, fyddwn i ddim yn newid dim byd.”
Llun: Strictly Come Dancing.