Rhedwraig yn dioddef ataliad ar y galon yn ystod Hanner Marathon Caerdydd

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Hanner Marathon Caerdydd

Cafodd rhedwraig ataliad ar y galon tra'n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Yn ôl y trefnwyr, mae hi yn gwella yn yr ysbyty.

Mewn datganiad, dywedodd Run4Wales: "Rydym yn gallu cadarnhau bod rhedwraig wedi dioddef ataliad ar y galon tra'n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd.

"Cafodd gymorth meddygol yn y fan a'r lle gan weithwyr meddygol a'r gwasanaethau brys o fewn eiliadau i'r digwyddiad.

"Diolch i'w hymateb cyflym, roedd hi mewn cyflwr sefydlog ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty, lle mae hi'n gwella."

Ychwanegodd Run4Wales na fydd unrhyw fanylion pellach yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd.

Rhedodd mwy na 29,000 o bobl yn yr hanner marathon ddydd Sul.

Cafodd record y cwrs ei thorri gan redwr o Ethiopia a oedd yn rhedeg hanner marathon am y tro cyntaf erioed.

Gorffennodd Yismaw Dillu y ras mewn 59:22, gan guro'r record flaenorol a gafodd ei gosod gan Leonard Langat yn 2019 o dros saith eiliad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.