Rhybudd ar ôl achub dau ar gopa Cader Idris ynghanol Storm Amy
Mae cadeirydd cymdeithas achubwyr mynydd gogledd Cymru wedi galw ar bobl i dalu sylw i rybuddion tywydd ar ôl i ddau unigolyn gael eu hachub o gopa Cader Idris ynghanol Storm Amy.
Dywedodd Tîm Canfod ac Achub Aberdyfi eu bod nhw wedi achub dau gerddwr ifanc a oedd wedi'u dal yn y lloches ar y copa nos Sadwrn.
Roedd hynny ynghanol rhybudd melyn am wynt dros Gymru gyfan drwy gydol y penwythnos.
Cyrhaeddodd yr achubwyr y cerddwyr ar y copa toc cyn 22.00, gan ddod â diodydd poeth a dillad cynnes i'w helpu i ymdopi â'r amodau llym.
“Er gwaethaf y tywydd gwyllt, roedden nhw wedi llwyddo i’w harwain i lawr yn ddiogel erbyn hanner awr wedi hanner nos,” medden nhw.
Dywedodd Andy Harbach, Cadeirydd Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru (NWMRA) bod angen cymryd rhagor o ofalu mewn tywydd garw.
“Mae eich diogelwch yn bwysig, ac mae'r rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd yn glir,” meddai.
“Mae timau achub mynydd Gogledd Cymru wedi ymateb i dros 570 o alwadau eleni.
“Rydym yn deall bod damweiniau’n digwydd, ond mae’r nifer hwn o ddigwyddiadau’n rhoi pwysau cynyddol ar ein timau sydd i gyd yn wirfoddolwyr.
“Mae yna bryder ymhlith timau achub mynydd y gallai’r amodau fel y rhai a brofwyd y penwythnos hwn, atal hyd yn oed y gwirfoddolwyr achub mynydd profiadol, er gwaethaf ein hyfforddiant, ein sgiliau, ein profiad a’n gwybodaeth am y tir, rhag cyrraedd atoch mewn pryd - neu o gwbl.
“Felly peidiwch â’ch rhoi eich hunain mewn perygl, mwynhewch ein tirwedd hardd, ond efallai gadewch y copaon, y tir uchel a chribau agored at ddiwrnod arall.”