Gemwaith aur o'r Oes Efydd wedi ei ddwyn o Amgueddfa Werin Sain Ffagan
Gemwaith aur o'r Oes Efydd wedi ei ddwyn o Amgueddfa Werin Sain Ffagan
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ladrad yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
Derbyniodd swyddogion adroddiad am fyrgleriaeth yn yr amgueddfa am tua 00:30 fore Llun.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru: “Ar hyn o bryd, credwn fod dau unigolyn wedi gorfodi eu ffordd i mewn i'r prif adeilad, lle cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gas arddangos.
“Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ac rydym yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
“Gallai unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor fach, fod yn berthnasol i'r ymchwiliad.”
'Ymosodiad wedi ei dargedu'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: ““Fel amgueddfa, rydym yn siomedig i glywed am yr ymosodiad wedi'i dargedu'n benodol at Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
"Mae'r eitemau y tybir iddynt gael eu dwyn yn enghreifftiau o emwaith aur o'r Oes Efydd ac roeddent wedi'u harddangos yn Oriel Cymru.
“Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am eu cydweithrediad yn yr ymchwiliad hwn ac am eu hymateb prydlon pan gawsant wybod am y digwyddiad yn oriau mân y bore."
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r aelodau o staff a oedd ar ddyletswydd dros nos, a wnaeth ddilyn protocol ac, yn ffodus, na chawsant eu hanafu yn ystod y digwyddiad.”
Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500319252.
'Pryderus'
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant, ac Aelod lleol o’r Senedd, Heledd Fychan AS: “Rwyf yn bryderus clywed bod lladrad wedi bod yn Sain Ffagan dros nos ac yn falch clywed na chafodd neb o’r staff niwed.
“Y genedl sydd berchen ein casgliadau cenedlaethol ac mae’n drist dros ben bod rhywrai wedi gwneud hyn.
“Mae’n bwysig ein bod yn derbyn y sicrwydd bod gweddill y casgliadau yn ddiogel, a hefyd, dod i ddeall sut mae hyn wedi gallu digwydd.
"Bydd hyn wedi bod yn sioc aruthrol i’r staff, ac mae fy meddyliau gyda nhw i gyd."
Llun: Amgueddfa Cymru