Pwy all olynu'r darlledwr Huw Edwards?

Wedi i Newyddion S4C adrodd ddydd Sul fod Huw Edwards yn ystyried ei ddyfodol fel prif gyflwynydd newyddion y BBC, mae’r Mail Online yn darogan pwy all olynu’r darlledwr.
Roedd Huw Edwards, sydd yn gyflwynydd rhaglen newyddion 10 o’r gloch y BBC, yn westai pen-blwydd ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul, pan ddywedodd nad oedd yn credu byddai'n parhau gyda’r gwaith “am gyfnod hir i ddod”.
“Dwi’n ddarlledwr greddfol, felly dwi’m yn gweld fi’n rhoi gorau i gyflwyno neu darlledu," dywedodd Mr Edwards.
"Ond, mae’r busnes nosweithiol newyddion ar ôl dros 20 mlynedd… mae o’n gallu bod yn drech."
Yn ôl adroddiadau, rhai o'r enwau posib allai olynu Edwards ydy Fiona Bruce, Sophie Raworth, Mishal Husain a Reeta Chakrabarti, sydd eisoes yn gyflwynwyr newyddion gyda'r BBC.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: BBC