Huw Edwards yn ystyried ei ddyfodol
Mae prif gyflwynydd newyddion y BBC wedi dweud ei fod yn ystyried ei ddyfodol, wrth i’r Cymro ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Mewn cyfweliad arbennig ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore Sul, dywedodd Huw Edwards, cyflwynydd rhaglen newyddion 10 o’r gloch y BBC, nad yw’n credu byddai’n parhau gyda’r gwaith “am gyfnod hir i ddod”.
“Dwi’n ddarlledwr greddfol, felly dwi’m yn gweld fi’n rhoi gorau i gyflwyno neu darlledu. Ond, mae’r busnes nosweithiol newyddion ar ôl dros 20 mlynedd… mae o’n gallu bod yn drech,” dywedodd Mr Edwards
“Er mod i’n dal i fwynhau’r gwaith, ond dwi’m yn credu byddai’n gwneud hwna am gyfnod hir i ddod.”
Yn ôl y darlledwr, mae’n credu ei bod hi’n amser i eraill gael y cyfle i eistedd yn ei sedd.
“Yn y lle cyntaf, fi’n credu bod e’n deg i’r gwylwyr i gael chênj. Yn ail mae ‘na gyfeillion i mi yn y gwaith, cydweithwyr, sydd yn dalentog iawn, mae’n bryd i roi cyfle iddyn nhw hefyd.”
Sefyllfa cyflogau yn 'cythruddo'
Fe aeth ymlaen i drafod ei anfodlonrwydd am y ffordd mae’r BBC wedi delio gyda sefyllfa cyflogau eu staff.
Yn ôl y darlledwr, mae’r ffaith bod cyflogau staff y BBC yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn yn “ddiflastod pur”.
“Mae wedi fy nghythruddo fi i fod yn onest. Nid oherwydd mod i ag unrhyw embaras o safbwynt cyflog yn enwedig gan mod i wedi cymryd toriad enfawr blynyddoedd nôl beth bynnag.
“Os ewch chi i Channel 4, neu ITV neu Sky, lle maen nhw’n ennill lot mwy o arian gyda llaw, does neb yn cyhoeddi cyflogau nhw oherwydd eu bod nhw ddim yn y sector gyhoeddus yn yr un ffordd.
“Mae’r holl fusnes yma bo chi’n gallu cael rhyw fath o drwydded i sticio’ch trwyn mewn i fusnes pobl eraill, wel, dydw i ddim yn derbyn hynny.”
Fe ychwanegodd Huw Edwards fod rheolau’r BBC dros beth mae eu staff yn cael ei gyhoeddi ar gyfrifon personol ar wefan Twitter yn gallu bod yn rhwystredig ond bod y BBC yn gefnogol iddo allu cyfleu ei Gymreictod a’i ddiddordebau ar y cyfrwng.
“Yn hyn o beth, mae’n rhaid i fi ddweud bod y BBC yn gallu bod yn eitha hyblyg, ch’bod mae ganddyn nhw ganllawiau, ac mae’r canllawiau i weld yn weddol llym. Ond maen nhw’n deall yn iawn bod gen i farn ar bethau yn sicr o safbwynt yr iaith Gymraeg a diwylliant a Chymreictod. Ac ar y cyfan, maen nhw’n fodlon imi fynegi barn, ond mod i ddim yn ypsetio gormod o bobl.”
Llun: BBC