Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

16/08/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Llun, 16 Awst - o Gymru a thu hwnt.

Afghanistan yn deffro i fyd newydd wrth i'r Taliban gymryd grym - Sky News

Mae pobl Afghanistan wedi deffro i fyd newydd ddydd Llun wrth i'r Taliban ddod i rym yn y wlad.  Mae'r Taliban wedi datgan fod y rhyfel ar ben yn Afghanistan wedi iddynt gymryd rheolaeth o'r palas arlywyddol yn Kabul.

Arestio dau ar ôl ymosodiad difrifol yn Wrecsam

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Wrecsam ddydd Sul.  Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Siom ar ôl canslo digwyddiadau stryd Gŵyl Jazz Aberhonddu

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi penderfynu canslo eu digwyddiadau stryd er bod cyfyngiadau Covid-19 wedi codi.  Cyn y pandemig, byddai strydoedd y dref wedi bod yn llawn perfformwyr, stondinau bwyd a channoedd o bobl yn ymlwybro yn gwrando ar gerddoriaeth fyw.

Covid-19: Gordon Brown yn galw am gynhadledd arbennig - The Guardian

Mae Gordon Brown wedi galw ar wledydd gorllewinol cyfoethog i lacio eu gafael haearnaidd ar feddyginiaethau i ymdrin â Covid-19.  Galwodd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig am gynhadledd arbennig ar yr un adeg a chynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd fis nesaf i drafod diffyg brechlynnau Affrica.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.