Covid-19: Gordon Brown yn galw am gynhadledd arbennig
Mae Gordon Brown wedi galw ar wledydd gorllewinol cyfoethog i lacio eu gafael haearnaidd ar feddyginiaethau i ymdrin â Covid-19.
Galwodd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar Joe Biden, Boris Johnson a Mario Draghi i gynnal cynhadledd arbennig ar yr un adeg a chynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd fis nesaf i drafod diffyg brechlynnau Affrica.
Yn ysgrifennu yn The Guardian, dywedodd Brown ei fod yn syfrdanol fod tua 10m o frechlynnau un-dos Johnson & Johnson wedi eu cynhyrchu mewn ffatri yn Ne Affrica yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na chynorthwyo gwledydd Affrica i gyrraedd eu targedau brechu.
Er rhybuddion gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Banc y Byd am yr angen am weithredu ar frys, dywedodd Brown y byddai 45 o 54 gwledydd Affrica yn methu eu targedau ar gyfer mis Medi o frechu 10% o'u dinasyddion.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Downing Street (drwy Flickr)