Arestio dau ar ôl ymosodiad difrifol yn Wrecsam
Mae dau ddyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Wrecsam.
Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn hanner dydd ger archfarchnad Morrisons yn y dref ddydd Sul.
Dywed yr heddlu y bu ymdrech i leoli ac arestio dau ddyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r ddau yn y ddalfa yn cynorthwyo gydag ymholiadau'r heddlu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Alwyn Williams: "Nid ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd a hoffem sicrhau'r cyhoedd nad oes pryderon parhaus ar gyfer y gymuned.
"Gan fod hwn yn ymchwiliad byw, byddem yn gofyn i'r cyhoedd i beidio â dyfalu am y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol".
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu.
Llun: Google