Newyddion S4C

Siom ar ôl canslo digwyddiadau stryd Gŵyl Jazz Aberhonddu

Newyddion S4C 16/08/2021

Siom ar ôl canslo digwyddiadau stryd Gŵyl Jazz Aberhonddu

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi penderfynu canslo eu digwyddiadau stryd er bod cyfyngiadau Covid-19 wedi codi.

Cyn y pandemig, byddai strydoedd y dref wedi bod yn llawn perfformwyr, stondinau bwyd a channoedd o bobl yn ymlwybro yn gwrando ar gerddoriaeth fyw.

Ond mae’r trefnwyr yn mynnu bod rhaid iddynt barhau i fod yn ofalus yn sgil y pandemig.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal drwy gydol mis Awst, ond mae rhai pobl leol yn anfodlon ac wedi lleisio eu siom bod yr ŵyl wedi parhau i gyfyngu ar gynulleidfaoedd.

Dywedodd Claire Lyndon, perchennog siop sglodion yn Aberhonddu wrth raglen Newyddion S4C: “Ni wedi’n siomi’n llwyr... mae’r dref fel arfer yn llawn cynnwrf, yn fyw, ond fel chi’n gweld, does neb yma".

Dywedodd Nia Morgan, sy’n byw yn y dref: “Sdim lot o bobl 'ma o gwbl. Does dim bands yn mynd mlaen. Mae fel arfer yn dod â lot o arian i mewn i’r dref achos mae pobl yn dod o bobman, felly fi’n creu bod e yn rhoi impact ar y pubs lleol".

Ond pwyll piau hi yn ôl trefnwyr yr ŵyl, sy’n dweud eu bod wedi ymgynghori gyda’r gymuned leol.

Dywedodd Lynne Gornall, Trefnydd Gŵyl Jazz Aberhonddu: “Rydym wedi bod yn trafod gyda Chyngor Sir Powys, maen nhw wedi bod yn help mawr, wedi ein cynghori ni ar yr amserlen. Mae wedi cael ei wneud yn ofalus... ni allwn ni ddenu lot o bobl i’r strydoedd, dwi ddim yn meddwl y byddai pobl eisiau hynny eleni".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.