Afghanistan yn deffro i fyd newydd wrth i'r Taliban gymryd grym
Mae pobl Afghanistan wedi deffro i fyd newydd ddydd Llun wrth i'r Taliban ddod i rym yn y wlad.
Mae'r Taliban wedi datgan fod y rhyfel ar ben yn Afghanistan wedi iddynt gymryd rheolaeth o'r palas arlywyddol yn Kabul.
Mae arlywydd y wlad, Ashraf Ghani, wedi ffoi o'r wlad, ac mae'r grŵp eithafol bellach yn paratoi i gyhoeddi cyfraith Islamaidd yno, yn ôl Sky News.
Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban, Mohammed Naeem, wrth Al Jazeera y bydd y math o lywodraeth maent yn gobeithio ei orfodi'n eglur yn fuan.
Mae arweinwyr y Taliban wedi dweud wrth frwydwyr i alluogi dinasyddion i ail-gydio yn eu gweithgareddau dyddiol, ac maent wedi derbyn gorchymyn i beidio â gwneud unrhyw beth a fedrai achosi ofn iddynt.
Ond mae nifer o bobl yn Afghanistan yn pryderu y gallai'r Taliban ail-gyflwyno'r math o lywodraethu a gafodd, mwy neu lai, wared ar hawliau menywod yn y wlad, gyda rhai pobl yn aros wrth beiriannau arian i dynnu eu cynilion.
Darllenwch y diweddaraf ar y sefyllfa yma.