Dewis cyhoeddwr llyfrau Cymraeg yn ymgeisydd y Blaid Lafur yn isetholiad Caerffili

Richard Tunnicliffe

Cyhoeddwr llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc fydd ymgeisydd y Blaid Lafur yn isetholiad Caerffili.

Bydd Richard Tunnicliffe, cyd-gyfarwyddwr cwmni cyhoeddi Rily, yn sefyll yn yr isetholiad ar ôl marwolaeth y cyn Aelod o Senedd Cymru, Hefin David. 

Daw hyn wedi i Blaid Cymru gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon mai'r cyn AS dros ranbarth Canol De Cymru, Lindsay Whittle, fydd eu hymgeisydd nhw yn yr isetholiad. 

Cadarnhaodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, ddydd Mercher y bydd isetholiad sedd Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.

'Calon drom'

Fe wnaeth Mr Tunnicliffe roi teyrnged i Hefin David ar ôl cael ei ddewis yn ymgeisydd: “Yn Hefin, rydym wedi colli rhywun a oedd yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’n cymuned, hyd yn oed cyn iddo gael ei ethol fel ein AS.

“Roedd e’n ddyn a oedd bob amser yn chwilio am y gorau ym mhobl eraill ac am yr hyn yr oedden nhw'n gallu ei gyflawni, nid yr hyn na allen nhw ei wneud; ac roedd e’n annog, yn cefnogi ac yn grymuso pobl.

“Roedd ganddo ffydd ynof nad oedd gen i i ddechrau. Gyda chalon drom rwyf eisiau ei ad-dalu.” 

Wrth gyhoeddi y byddai yn ymgeisydd ddydd Mercher dywedodd Lindsay Whittle bod amgylchiadau'r is-etholiad yn "ofnadwy o drist ac mae fy meddyliau gyda theulu Hefin".

“Mae pobl Caerffili yn haeddu cynrychiolydd lleol angerddol yn y Senedd. Rwy’n benderfynol o gynnig agenda cadarnhaol, i roi bargen deg i’r ardal hon.”

Teyrngedau

Bu farw Hefin David, oedd wedi cynrychioli Caerffili ers 2016, ar 12 Awst yn 47 oed, ddiwrnod cyn ei benblwydd yn 48 oed.

Clywodd cwest fis diwethaf ei fod wedi marw o “achosion annaturiol.” 

Fe wnaeth y crwner osod dyddiad arfaethedig o 7 Ebrill ar gyfer y cwest llawn.

Cafodd angladd y cyn aelod Llafur ei gynnal yng Ngelligaer, yn Sir Caerffili ar 1 Medi. 

Roedd y prif weinidogion Eluned Morgan a Syr Keir Starmer ymhlith y rhai a roddodd deyrnged iddo wedi ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.