Menywod Cymru yn colli 25-28 yn erbyn Ffiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd
Mae menywod Cymru wedi colli 25-28 yn erbyn Ffiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd gan olygu eu bod nhw'n gorffen ar waelod eu grŵp.
Dyma’r tro cyntaf i fenywod Cymru chwarae Ffiji ond fe wnaethon nhw ddioddef yr un ffawd a’r dynion a gollodd yn erbyn y tîm o’r Cefnfor Tawel yng Nghwpan y Byd 2007.
Daw wedi i Gymru golli eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn drwm, 38-8 yn erbyn yr Alban a 42-0 yn erbyn Canada.
Roedd yn ddechrau addawol iawn i Gymru yn stadiwm Sandy Park, Exeter wrth i Bethan Lewis lwyddo i rwystro ymgais Ffiji i glirio’r bêl ar ôl y chwiban gyntaf.
Fe aeth Cymru drwy’r cymalau cyn i Keira Bevan basio’r bêl i Carys Cox a aeth drosodd yn y gornel. Methodd Bevan y trosiad.
Tarodd Ffiji yn ôl yn syth drwy Josivini Naihamu ar ôl sgrym wedi i Gymru daro’r bêl ymlaen bum metr o’u llinell eu hunain. Llwyddodd Salanieta Kinita gyda’r trosiad gan roi Ffiji ar y blaen.
Gyda 12 munud o’r gêm yn unig wedi mynd daeth trydydd cais wrth i Alex Callender, cyd-gapten Cymru oedd yn dychwelyd o anaf, wthio dros y llinell o agos wedi sawl cymal.
Llwyddodd Ffiji i fwrw'r gic adlam i’r llawr wrth i Keira Bevan gymryd y gic.
Roedd y gwynt wrth gefnau chwaraewyr Ffiji yn yr hanner cyntaf ac roedd y gwynt yn eu hwyliau hefyd wrth iddyn nhw sgorio tair cais yn olynol heb ymateb gan Gymru.
Llwyddodd Ffiji i dorri drwy ganol cae ac fe ddihangodd Josivini Naihamu o afael Kayleigh Powell i sgorio ail gais o dan y pyst. Fe lwyddodd Litiana Vueti gyda’r trosiad unwaith eto.
Roedd Ffiji yn edrych yn eithriadol o beryglus gyda’r bêl yn eu dwylo ac amddiffyn Cymru dros bob man.
Gyda llai na hanner awr wedi mynd fe sgoriodd Ffiji eu trydydd cais drwy’r mewnwr Setaita Railumu a lithrodd drwy fwlch yn yr amddiffyn ar ochr y ryc.
Llwyddodd Vueti gyda’r trosiad unwaith eto i roi Ffiji 21-10 ar y blaen.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wedyn wrth i’w hymosodiad eu hunain yn hanner Ffiji ddod i ddim.
Llwyddodd Repeka Tove i ddianc i lawr yr asgell dde a chroesi unwaith eto, ac fe lwyddodd Litiana Vueti gyda’r trosiad.
Roedd gwên ar wyneb hyfforddwr Ffiji, Ioan Cunningham, a fu’n hyfforddi Cymru am dair blynedd nes mis Tachwedd y llynedd.
Roedd Cymru angen sgorio nesaf a daeth llygedyn o obaith i Gymru wrth i Sisilia Tuipulotu lwyddo i wasgu dros y llinell o agos toc cyn hanner amser.
Methu oedd hanes Keira Bevan gyda’r trosiad unwaith eto gan olygu bod yr hanner yn gorffen 15-28 a’r crysau cochion gyda mynydd o waith o’u blaen yn yr ail hanner.
Yr ail hanner
Cymru oedd â’r gwynt wrth eu cefnau yn yr ail hanner ac fe sgoriodd Kayleigh Powell ym munudau cyntaf ar ôl twyllo amddiffynwyr Ffiji gyda ffug-bas.
Methodd Keira Bevan unwaith eto gyda’i chic - gan olygu bod Ffiji, a oedd wedi cicio pob un o’u trosiadau nhw, wyth pwynt ar y blaen.
Roedd yn ymddangos bod Ffiji wedi taro nôl yn syth unwaith eto gyda chais gan yr asgellwr Kolora Lomani ond roedd un o’r chwaraewyr a oedd wedi cyffwrdd â’r bêl yn camsefyll yn ystod cic flaenorol.
Tro Cymru oedd hi wedyn i gael cais wedi’i wrthod wedi i Carys Cox groesi o agos. Roedd y bêl wedi llithro o’i gafael wrth iddi groesi’r llinell, meddai’r dyfarnwr teledu, ond doedd hi ddim yn amlwg.
Roedd Cymru’n chwarae gêm fwy strwythuredig yn yr ail hanner heb roi’r un cyfle i Ffiji redeg â’r bêl. Ond roedd camgymeriadau wrth drin y bêl yn y dwylo yn drech na’r ddau dîm dros yr 20 munud nesaf.
Llwyddodd Cymru i sgorio cais arall drwy’r asgellwr Lisa Neumann wedi bylchiad gan Carys Cox ond methu wnaeth Lleucu George gyda’r trosiad gan olygu bod angen rhagor o bwyntiau arnyn nhw.
Roedd Cymru ar fin sgorio eto munudau cyn y chwiban olaf ond llwyddodd Ffiji i ennill cic gosb dan eu pyst eu hunain.
Roedd diweddglo dadleuol i'r gêm wrth i Ffiji daflu'r bêl allan yn syth o'r sgrym, ond penderfynodd y dyfarnwr ei fod yn ymgais at bas gan roi'r fuddugoliaeth i Ffiji.