Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Cyffordd Llandudno

Cylchfan y Gath Ddu

Mae beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Cyffordd Llandudno. 

Mae Heddlu’r Gogledd wedi dweud eu bod yn apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd toc wedi 11.30 fore ddydd Sadwrn. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Suzuki glas a gwyn a Range Rover du ar gylchfan garej y Black Cat ar ffordd yr A547.

Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r beic modur yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mae’r ffordd yn parhau ar gau wrth i’r llu parhau i ymchwilio, meddai'r heddlu brynhawn Sadwrn.

Dywedodd prif swyddog ymchwilio tîm Troseddau Ffyrdd Heddlu’r Gogledd ei fod yn cynnig ei “gydymdeimladau dwysaf i'r teulu yn ystod yr amser anodd hwn”.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a wnaeth stopio er mwyn helpu, gan gynnwys nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad oeddent ar ddyletswydd ar y pryd,” medd y Rhingyll Alun Jones.

“Mae’r ffordd yn parhau ar gau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallai Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig cynnal eu hymchwiliad cychwynnol, a hoffen ni ddiolch i bawb am eu hamynedd.”

Dywedodd ei fod yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu, yn ogystal ag unrhyw un all fod a deunydd dashcam neu ffon symudol.

Maent yn annog pobl i gysylltu ag Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru drwy ddyfynnu’r cyfeirnod C139505.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.