Agoriad cwest yn clywed fod Hefin David wedi marw 'o achosion annaturiol'

Hefin David.jpg

Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.

Cafodd yr Aelod o'r Senedd Hefin David ei ddarganfod gan ei chwaer ar ôl marw o "achosion annaturiol", clywodd cwest.

Wrth agor cwest i'w farwolaeth yn Llys y Crwner yng Nghasnewydd ddydd Mawrth, dywedodd Rose Farmer, Crwner Rhanbarthol Ei Fawrhydi dros Gwent bod chwaer Mr David wedi ei ddarganfod yn yn ei gartref yn Nelson, Sir Caerffili.

Clywodd y cwest ei fod wedi ei ddarganfod yn "crogi" yn ei gartref.

Bu farw'r gwleidydd, a oedd wedi cynrychioli Caerffili ers 2016, ar 12 Awst yn 47 oed. Bu farw ddiwrnod cyn ei benblwydd yn 48 oed.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar 15 Awst meddai'r crwner, ond mae oedi wrth aros am ganlyniadau tocsicoleg.

Fe gafodd y cwest ei ohirio tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Fe wnaeth y crwner osod dyddiad arfaethedig o 7 Ebrill ar gyfer y cwest llawn.

Fe wnaeth teulu Hefin David gyhoeddi teyrged iddo ar ôl y cwest:

"Mae'n amlwg o'r nifer fawr o negeseuon a dderbyniwyd gennym ni fod Hefin yn uchel ei barch ac yn cael ei garu'n ddiffuant gan y gymuned yr oedd yn ei chynrychioli, a chan y rhai y bu'n gweithio gyda nhw yn ystod ei flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus. 

"Ond yn fwy na hyn, roedd Hefin yn dad ymroddedig a oedd yn cael ei addoli gan ei ferched Caitlin a Holly, yn fab annwyl iawn i Wynne a Christine, yn frawd annwyl i Siân, yn ewythr gwych i Osian a Catrin, ac yn enaid hoff i'w bartner annwyl Vikki. 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cysylltu â ni ers marwolaeth Hefin, ac yn gofyn nawr am breifatrwydd i alaru."

'Gwleidydd rhagorol'

Mae sawl gwleidydd wedi rhoi teyrnged i Hefin David ers ei farwolaeth.

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan: “Rydym yn hynod drist o glywed am farwolaeth sydyn Hefin. Mae ein meddyliau gyda’i deulu yn yr amser ofnadwy hwn.

“Roedd Hefin yn aelod annwyl iawn o deulu Llafur. Gwasanaethodd Caerffili fel cynghorydd ac Aelod o’r Senedd gyda balchder ac angerdd.

“Roedd yn wleidydd rhagorol, yn gynnes ac yn frwdfrydig ac yn gyfathrebwr gwych – yn enwedig ar ran ei etholwyr. Bydd colled fawr ar ei ôl.”

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Syr Keir Starmer fod Hefin David yn "llais pwerus ar gyfer pobl Cymru."

"Sicrhaodd fod pob person a chymuned yng Nghymru wedi cael y cyfleoedd a chefnogaeth yr oedden nhw yn eu haeddu," meddai.  

"Yn aelod o'r Senedd dros Gaerffili, lle cafodd ei eni a'i fagu, roedd yn hynod falch o'i gymuned. 

"Mae ein calonnau gyda'i deulu, a'r rhai a oedd yn ei adnabod a'i garu yn y cyfnod poenus hwn."

'Arbennig o boblogaidd'

Wrth ymateb i'r newyddion am ei farwolaeth, dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Mae’r newyddion trasig am farwolaeth Hefin wedi bod yn dorcalonnus i ni fel cymuned y Senedd. Mae ein meddyliau gyda’i bartner, ein cydweithiwr a'n ffrind, Vikki Howells AS a’i blant a'i deulu annwyl.

"Roedd Hefin yn llawn bywyd a brwdfrydedd dros ei etholwyr a'u hachosion. Roedd yn wleidydd angerddol, yn ffyddlon i'w blaid, ei wlad, a'i etholwyr. Roedd yn gallu gweithio'n effeithiol ar draws pleidiau a cheisio tir cyffredin.

"Roedd Hefin yn arbennig o boblogaidd ar draws y Senedd. Roedd ganddo’r ddyletswydd hefyd fel ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros Gyllid ac ymgymerodd â'r rôl honno yn ddiwyd ac yn fedrus.

"Mae'r newyddion yn dorcalonnus ac yn ein hatgoffa o ba mor fregus yw bywyd a'r angen i ni i gyd gefnogi ein gilydd."

Dywedodd Laura Anne Jones, aelod Reform yn y Senedd dros Ddwyrain De Cymru fod y newyddion wedi ei llorio.

"Roedd Hefin yn berson hyfryd. Be' bynnag fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, roeddem yn cyd-dynnu. Roedd ganddo wastad air caredig a gwên," meddai. 

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.