Gwrthdrawiad Biwmares: Teyrnged teulu i yrrwr 81 oed a fu farw
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares, Ynys Môn, wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Humphrey Pickering yn 81 oed ac yn byw ym Mae Colwyn. Fe wnaeth o a phâr priod, y Parchedig Stephen a Katherine Burch, farw yn y gwrthdrawiad ar 28 Awst 2024.
Fe ddisgrifiodd ei deulu Humphrey Pickering fel “gŵr, tad, taid a hen daid, brawd ac ewythr annwyl” gan ddweud y bydden nhw “i gyd yn ei fethu’n fawr.”
Roedden nhw hefyd wedi ymestyn eu cydymdeimlad i deulu’r Parchedig Stephen a Katherine Burch, a gafodd eu taro gan gar Mr Pickering ar Stryd Alma yn y dref yn ystod y digwyddiad.
Clywodd cwest yr wythnos diwethaf bod Mr Pickering wedi gwasgu sbardun ei gar yn anfwriadol cyn i'r car gyflymu o 25 mya i 55 mya mewn pum eiliad, gan achosi ei farwolaeth o a'r cwpl priod.
Roedd wedi gwasgu'r sbardun deirgwaith yn ei Audi A8 yn yr eiliadau tyngedfennol hynny, yn ôl swyddog ymchwilio'r heddlu i ddamweiniau.
Yn eu teyrnged iddo, mae teulu Mr Pickering wedi ei ddisgrifio fel unigolyn oedd yn “ddysgwr gydol oes, oedd wrth ei fodd yn teithio, dysgu ieithoedd newydd a chael profiad o ddiwylliannau newydd.”
Fe dreuliodd ei yrfa wedi ei amgylchynnu gyda llyfrau ac roedd wedi teithio i Ewrop a’r De’r Môr Tawel gyda’i waith yn addysgu, medden nhw.
'Atebion'
Roedd ei deulu hefyd yn awyddus i ddiolch y gwasanaethau brys am eu cymorth adeg y gwrthdrawiad, ac am yr holl gymorth y maen nhw wedi eu cael yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Mi hoffai ein teulu ddiolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd wnaeth helpu wrth lleoliad y gwrthdrawiad, ac i’r rhai wnaeth ddarparu gofal a help i’n mam, yn enwedig y staff yng Ngwesty’r Bulkley, wnaeth ei chadw’n ddiogel tan oeddem ni’n medru dod i Fiwmares er mwyn bod efo hi i’w chysuro hi," medden nhw.
“’Da ni hefyd eisiau diolch i’r rhai sydd wedi gweithio’n ddi-baid ers hynny, er mwyn datgelu digwyddiadau’r diwrnod a rhoi eglurhad o’r hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.
“Mi wnaiff yr atebion hyn ein helpu ni i symud ymlaen yn ein galar, ac maen nhw’n gam bach tuag at ein teulu’n derbyn y ddamwain drychinebus hon a’r golled gofidus i’n teulu ni ac i deulu’r Parch. Stephen a Katherine Burch.
“’Da ni’n gobeithio fydd canlyniad y cwest yn eu helpu nhw mewn rhyw ffordd hefyd.”
Mewn teyrnged i’r Parchedig Stephen a Katherine Burch ddydd Iau, roedd teulu y Parch. Stephen a Katherine Burch wedi dweud fod cwestiynau wedi codi "am ddiogelwch cerbydau pwerus ac awtomatig yn nwylo gyrwyr hŷn."