Tad o Gaerdydd a gollodd ei ferch yn croesawu newid i brofion gyrru
Mae tad i ddynes ifanc a fu farw yn dilyn ataliad ar y galon wedi croesawu'r newyddion y bydd y rhai sy'n dysgu gyrru yn cael eu profi am eu sgiliau achub bywyd a CPR o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Collodd yr Athro Len Nokes ei ferch 24 oed, Claire, yn 2017 wedi cymhlethdodau ar ôl ataliad ar y galon.
Mae'r Athro Nokes yn gyfarwyddwr meddygol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, ac yn gadeirydd ar gynllun Achub Bywyd Cymru, ac roedd wedi ymgyrchu i sicrhau y newid yn y profion gyrru.
Dywedodd: "Pan gafodd Claire, fy merch ataliad ar y galon, gallai gwybodaeth am CPR fod wedi gwneud gwahaniaeth
“Nid ydw i am i deulu arall fynd trwy'r profiad hwn."
Mae'r rhai sy'n dysgu gyrru yn gorfod pasio eu prawf ysgrifenedig cyn gwneud cais am brawf gyrru ymarferol.
Bydd sgiliau CPR yn cael ei ychwanegu at y prawf dysgu gyrru ysgrifenedig o hyn allan.
Cymorth brys
Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) sydd wedi ei lleoli yn Abertawe, gyrwyr yn aml yw'r cyntaf sydd ar y safle pan fo pobl yn cael ataliad ar y galon.
Yn ôl yr asiantaeth, drwy ychwanegu cwestiynau am CPR a diffibrilwyr i'r prawf ysgrifenedig, bydd gan ymgeiswyr "well dealltwriaeth o'r sgiliau i'w defnyddio mewn argyfwng."
Mae mwy na 40,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef ataliad ar y galon pan nad ydynt yn agos at ysbyty, bob blwyddyn, gydag un ym mhob deg yn unig yn goroesi.
Yn ôl gwaith ymchwil, mae'r gyfradd oroesi yn medru bod yn 70% os yw CPR yn cael ei roi a bod diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio o fewn tair i bum munud ers y pwl ar y galon.
Dywedodd prif arholwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, Mark Winn: “Mae gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng yn rhan o'r gofynion i fod yn yrrwr cyfrifol a diogel.
“Mae dysgu CPR a gwybod sut i ddefnyddio diffibriliwr yn sgil syml, ac mae ychwanegu hynny i'r prawf yn ffordd wych i'r asiantaeth gefnogi'r ymgyrch i hybu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y sgiliau hynny.”
Yn y prawf ysgrifenedig, mae angen i ymgeiswyr ateb o leiaf 43 o'r 50 o gwestiynau aml ddewis yn gywir.
Mae angen pasio prawf fideo hefyd sy'n canolbwyntio ar beryglon ar y ffordd .
Mae mwy na dwy filiwn o brofion ysgrifenedig yn cael eu cynnal bob blwyddyn yn y DU, gyda 45% o'r ymdrechion yn llwyddiannus.
Llun: Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro