Mae teulu cwpl priod a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ym Miwmares, Sir Fôn fis Awst y llynedd wedi dweud fod cwestiynau yn codi "am ddiogelwch cerbydau pwerus ac awtomatig yn nwylo gyrwyr hŷn."
Roedd y Parchedig Stephen Burch a'i wraig Katherine Burch yn 65 oed ac yn dod o Alcester, Sir Warwick.
Roedd y ddau yn cerdded ar Stryd Alma yn y dref pan gawsant eu taro gan gar fis Awst y llynedd.
Clywodd cwest yr wythnos diwethaf bod dyn 81 oed wedi gwasgu sbardun ei gar yn anfwriadol cyn i'r car gyflymu o 25 mya i 55 mya mewn pum eiliad, gan achosi ei farwolaeth e a'r cwpl priod.
Roedd Humphrey Pickering o Fae Colwyn wedi gwasgu'r sbardun deirgwaith yn ei Audi A8 yn yr eiliadau tyngedfennol hynny, yn ôl swyddog ymchwilio'r heddlu i ddamweiniau.
Wrth roi teyrnged i'r Parchedig a Mrs Burch ddydd Llun, dywedodd eu teulu fod y golled yn "anfesuradwy."
Ac maen nhw wedi diolch i bawb a ofalodd am y ddau ac a ddangosodd "ddewrder" wrth geisio'u cynorthwyo wedi'r gwrthdrawiad.
'Cwestiynau poenus'
"Fe gawson nhw eu lladd mewn gwrthdrawiad gan gerbyd awtomatig pwerus, yn cael ei yrru ar gyflymder ar stryd 20 mya," meddai datganiad y teulu.
"Mae'n codi cwestiynau poenus ond pwysig am ddiogelwch cerbydau pwerus ac awtomatig yn nwylo gyrwyr oedrannus, a'r angen ar frys am archwiliadau llymach a chanllawiau diogelwch er mwyn atal trychinebau eraill yn y dyfodol.
"Cyn y cwest, fe wnes i ymweld â Biwmares gyda fy ngŵr, ein mab a fy ffrind gorau. Cawsom ein hatgoffa unwaith eto o brydferthwch y dref hon yr oedd ein rhieni yn ei charu.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys a phawb a ddangosodd ddewrder ger safle'r gwrthdrawiad.
“Rydym hefyd yn cydnabod y trawma a brofwyd gan dystion ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydym wedi ei derbyn," meddai'r datganiad.
Yn y cwest ddydd Iau diwethaf, cofnododd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, mai gwrthdrawiad traffig achosodd y marwolaethau ar Stryd Alma.
Roedd Mr Pickering wedi “colli rheolaeth” ar ei gar ac wedi taro yn erbyn tŷ hefyd.
'Camddefnydd o bedalau'
Dywedodd y crwner: “Yr esboniad mwyaf tebygol yw camddefnyddio’r pedalau sydd wedi arwain at y cyflymiad anfwriadol sydyn.
"Nid oes tystiolaeth o fy mlaen bod y digwyddiad yn fwriadol ar ran y gyrrwr.”
Ychwanegodd wrth gyfeirio at y teuluoedd: “Dyma un o’r achosion mwyaf trawmatig rwy’n siŵr fy mod i wedi dod ar eu traws.
“Nid oes dim y gallaf ei ddweud a fydd yn lleddfu’r boen a’r dioddefaint y byddwch chi i gyd yn sicr o’u teimlo.”