Gweithwyr Ofgem yng Nghaerdydd i streicio
Bydd cannoedd o weithwyr rheoleiddiwr y diwydiant ynni Ofgem yng Nghaerdydd, Glasgow a Llundain yn streicio am dridiau ddiwedd Awst oherwydd eu bod yn anfodlon â'u tâl ac amodau gwaith.
Mae Ofgem wedi dweud bod penderfyniad y gweithwyr sy'n aelodau o undeb PCS yn siomedig.
Byddan nhw'n cadw draw o'u gwaith o 26-28 Awst.
Fis Mehefin, pleidleisiodd 85% o'r aelodau o blaid streicio, gyda 65% yn bwrw'u pleidlais.
Yn ôl Undeb PCS, mae cyflogau staff Ofgem yn yr 20% isaf o blith pawb sy'n gweithio.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS Fran Heathcote: "Mae ein haelodau yn Ofgem eisiau'r cyflog y mae pobl yn ei gael mewn mannau eraill, yn ogystal â sicrwydd swyddi a thriniaeth deg.
“Mae'n hen bryd i Ofgem gymryd hyn o ddifrif a datrys yr anghydfod hwn."
Mae Ofgem wedi dweud fod y penderfyniad i streicio yn un "siomedig."
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae tua thraean o weithwyr Ofgem yn aelodau'r PCS, ac rydym wedi cytuno i gyfathrebu gyda nhw ar y pynciau pwysig sydd wedi codi.
"Fel eraill yn y sector cyhoeddus, mae'n holl bwysig ein bod yn gweithio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl ar gyfer aelwydydd yr ydym yn eu gwasanaethu, tra'n denu a chadw'r bobl a'r sgiliau yr ydym eu hangen."