Yr Actor Tom Rhys Harries am weld mwy o hybu talentau'r Cymry
Yr Actor Tom Rhys Harries am weld mwy o hybu talentau'r Cymry
Mae actor o Gaerdydd fydd yn actio prif gymeriad yn ffilm ddiweddaraf DC Studios wedi dweud ei fod am weld mwy yn cael ei wneud i hybu talentau creadigol pobl o Gymru.
Pan yn fachgen ifanc, roedd Tom Rhys Harries yn cystadlu'n gyson ar lwyfannau gwahanol eisteddfodau, ac fel nifer fawr o Gymry, cafodd brofiadau creadigol pan yn fach.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Tydi mentro mewn i yrfa greadigol fel person Cymraeg ddim yn hollol anodd ei wneud, achos ni gyd yn cael ein cyflwyno i'r llwyfan o oedran ifanc.
"Mae hynny yn golygu ein bod yn cael gweld talent, yn ifanc yma yng Nghymru," meddai.
"Ac mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn i'r hyn sydd gyda ni yng Nghymru, yn enwedig yn y sector creadigol.
"Mae jyst rhaid bod ni'n gallu rhoi'r cyfle i bobl weithio a hybu eu gwaith yng Nghymru."
Fis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru, gan nodi bod y buddsoddiad “yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru”.
Fe fydd Tom Rhys Harries i'w weld ar y sgrin fawr yn ystod y flwyddyn nesa' fel y prif gymeriad yn ffilm ddiweddaraf DC Studio, 'Clayface'.
Er ei rôl newydd yn America, mae Harries yn dymuno parhau i weithio ar brosiectau yn ei famwlad, gan weld y sector yn cael ei hybu.
Fe ddechreuodd Tom Rhys Harries, sy'n 32 oed, ei yrfa fel myfyriwr yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, a gweithiodd ar ei ffilm gyntaf, 'Hunky Dory' yn Abertawe yn 2011.
"Hyd at heddiw, mae'n parhau i fod yn un o'r hoff bethau fi wedi gweithio arno."
'Mabinogi ar gyllideb fawr' ?
Dywedodd wrth Newyddion s4C nad oedd wedi gweithio yng Nghymru ers 2018, ond bod ei waith diweddar yn cynnwys tri chynhyrchiad, oll wedi eu lleoli yng Nghymru.
Ymysg y cynhyrchiadau sydd gan Tom ar y gweill mae prosiect ffilm i'w ddarlledu ar S4C yn 2026.
Mae Harries yn dymuno gweld mwy o fuddsoddiad ariannol yn y sector creadigol yng Nghymru - "Dychmygwch os fysa gyda ni'r cyfle i greu cyfres y Mabinogi ar gyllideb fawr - bydd hwnna yn sick."
Wrth weithio ar gynyrchiadau yng Nghymru, fe ddywedodd yr actor ei fod wedi cael ei atgoffa fod y gallu i siarad a gweithio yn y Gymraeg yn rhoi “persbectif gwahanol i ti,” a bod hynny yn galluogi rhywun i "weld y byd drwy lens gwahanol.
"Mae creadigrwydd ag output creadigol Cymru fel gwlad fach yn amazing, ac roeddwn i jyst yn falch i allu dod nôl gartref a chael gweithio efo, dim jyst actorion, ond gyda chriw a chynhyrchwyr yng Nghymru," meddai.