'Anhygoel': Dynes o Gonwy yn cael dialysis ar gopa'r Wyddfa

'Anhygoel': Dynes o Gonwy yn cael dialysis ar gopa'r Wyddfa

Mae dynes o Gonwy wedi dweud iddi gael profiad “anhygoel” ar ôl llwyddo i gael dialysis ar gopa’r Wyddfa.

Fe gafodd Julie McGrath, sy’n 61 oed, ddiagnosis o glefyd yr arennau polycystig pan oedd hi’n 45 oed.

Cafodd wybod ychydig o flynyddoedd yn ôl bod ei chyflwr wedi gwaethygu ac y bydd yn rhaid iddi ddechrau’r broses o gael triniaeth drwy beiriant dialysis.  

Mae’r peiriant dialysis yn glanhau’r gwaed ar ran yr arennau wedi iddyn nhw ddechrau methu, gan dynnu gwastraff o’r corff.

A hithau’n benderfynol o godi ymwybyddiaeth am ei chyflwr, fe deithiodd Julie ar y trên i gopa’r Wyddfa ddydd Gwener er mwyn iddi gael dialysis.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Yr Wyddfa, am lwyddiant. Mae gwneud dialysis ar ben Yr Wyddfa yn anhygoel.” 

Image
Ar y ffordd i'r Wyddfa
Teithio ar y trên i fyny'r Wyddfa

'Gobaith'

Mae Julie wedi derbyn hyfforddiant sydd yn golygu ei bod hi’n gallu defnyddio ei pheiriant dialysis adref – yn ogystal ag ar gopa mynydd uchaf Cymru.

Mae’n awyddus i godi ymwybyddiaeth am y periaint “gwyrthiol” yma sydd yn ei chadw hi’n iach tra ei bod yn disgwyl am drawsblaniad aren.

Ond oherwydd bod ganddi arennau polycystig, fe fydd rhaid iddi gael un o’i harennau wedi ei thynnu cyn iddi allu cael trawsblaniad, esboniodd.

“Bydd rhaid i fi gael aren wedi ei thynnu gan fod fy arennau’n fawr oherwydd y cyflwr polycystig," meddai.

“Felly dwi’n gorfod cael gwared ar un ohonyn nhw fel bod ‘na le am y trawsblaniad.”

Mae gan Julie apwyntiad ysbyty yn Lerpwl ym mis Ionawr ac mae’n gobeithio am “newyddion da” fydd yn golygu y bydd hi’n gallu dechrau paratoi am lawdriniaeth. 

Image
Ar gopa'r Wyddfa
Ar gopa'r Wyddfa

Rhoi organau

Roedd tad Julie wedi dioddef â’r un cyflwr â hi. Er hynny, dywedodd na fyddai unrhyw beth wedi gallu ei pharatoi hi am yr hyn y mae wedi wynebu.

“Er bod ti’n trio paratoi dy hunain, dwyt ti ddim yn gwneud," meddai. "O’n i methu gwneud, ‘nes i ddim.

“D’on i ddim yn barod achos dwyt ti byth yn barod yn dy feddwl. Roedd e’n frawychus i mi achos fe wnes i weld dad.”

Mae’n gobeithio y byddai pobl bellach yn fwy parod i roi organau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dros 4,000 o bobl yn y DU yn derbyn organau a meinweoedd ar ôl cael trawsblaniad.

Image
Sara Baker
Sara Baker, Arweinydd tîm dialysis cartref Ysbyty Gwynedd

Cafodd deddfwriaeth ei chyflwyno yng Nghymru yn 2015 gan olygu bod y rhan fwyaf o bobl dros 18 oed ar gofrestr rhoi organau yn ddi-ofyn oni bai eu bod wedi penderfynu’n swyddogol i beidio gwneud. 

Dywedodd Sara Baker, Arweinydd tîm dialysis cartref Ysbyty Gwynedd: “Dwi meddwl bod gweld rhyw beth yn fyw a sylweddoli be’ mae claf yn gorfod gwneud rhywbeth rhwng tair a saith gwaith yr wythnos i gadw eu hunain fyw tra maen nhw’n disgwyl am organ. 

“Mae o yn eu gwyneb nhw wedyn, ma’ nhw’n mynd i sylweddoli faint o waith ydy o, a gobeithio wedyn meddwl am roi organau.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.