Chwaraeon Para: Cymro’n bencampwr saethyddiaeth y byd
Mae’r Cymro Nick Thomas wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth y Byd.
Mae Thomas, sy’n 47 oed o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, wedi ei gofrestru’n ddall ac yn cynrychioli Prydain yn y pencampwriaethau yn Ne Korea.
Mae’n gweithio fel swyddog datblygu i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Mae wedi ennill medalau ar lefel Prydain, Ewrop a’r Byd.
Roedd y cystadleuwyr yn agor gyda rownd gymhwyso, gan saethu 72 saeth at dargedau 30 metr i ffwrdd. Yna roedd y rhai oedd yn symud ymlaen yn cystadlu mewn rowndiau terfynol amseredig, gan arwain at gystadleuaeth fedalau ym mhrif sgwâr dinas Gwangju.
Dywedodd Thomas cyn y gystadleuaeth: “Mae’n rhaid i mi gredu fy mod i’n ddigon da i ennill neu dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw bwynt i mi fynd.
“Mae angen hyder arnoch chi, efallai hyd yn oed ychydig o haerllugrwydd. Rydw i’n mynd i wneud fy ngorau a’r gobaith yw y bydd fy ngorau ar y diwrnod yn ddigon.”
Dywedodd Thomas ei fod wedi paratoi’n fwy trylwyr ar gyfer y digwyddiad hwn nag unrhyw un arall.
Ychwanegodd: “Rydw i’n mwynhau’r awyrgylch — y gerddoriaeth, y torfeydd, y bloeddio,” meddai.
“Mae’n fy ymlacio. Pan fyddwch chi’n saethu mae pawb yn dawel, ond mae popeth arall o’i gwmpas yn ychwanegu at yr achlysur.”
Mae para-saethyddiaeth yn cynnwys pob cystadleuydd yn gweithio gyda sbotiwr, sy'n rhoi gwybodaeth i’r saethydd ble mae eu saethau'n glanio ar y targed gan ddefnyddio system gloc.
Ni chaniateir i'r sbotiwr hyfforddi ond mae'n trosglwyddo safleoedd yn unig - fel "tri o'r gloch coch" - fel y gall y saethydd wneud addasiadau.
Fel arfer, gwraig Thomas, Marie, sy'n gweithredu fel ei sbotiwr, ond i Dde Korea, ei frawd-yng-nghyfraith Tom Hutton oedd yn cymryd y rôl.
Prif lun: Facebook/World Archery: (Nick Thomas ar y chwith a Tom Hutton ar y dde)