Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf
Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Liam Woolford, 22 oed, o Borth, Rhondda Cynon Taf, yn yr ysbyty ddydd Mawrth.
Mae Jake Staples, 24, o Borth, Rhondda Cynon Taf, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio, anafu gyda bwriad, cynllwynio i anafu a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae Ethan Ross, 23, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae Abeyshake Karunanithy, 22, o Donteg, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae Jesse Wandera, 30, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i anafu.
Fe fydd y pedwar yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Raikes: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Liam Woolford yn ystod y cyfnod anodd yma. Hoffwn hefyd ddiolch i gymuned Rhydyfelin am eu cefnogaeth yn ystod ein hymchwiliad."