Darganfod dau achos o’r tafod glas yng Nghymru

S4C

Mae dau achos o’r tafod glas wedi’u canfod yng Nghymru, ddyddiau yn unig wedi i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau.

Dyma'r achosion cyntaf i gael eu darganfod eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod seroteip 3 y tafod glas wedi’i nodi ar ddau safle yng Nghymru, un yn Sir Fynwy ac un ym Mhowys.

“Dylai ceidwaid da byw barhau i fod yn wyliadwrus a phrynu da byw o lefydd diogel,” meddai llefarydd.

“Siaradwch â’ch milfeddyg am y clefyd, brechwch yn ei erbyn ac adroddwch achosion amheus i APHA.”

Dywedodd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth y DU fod un achos wedi’i gadarnhau ar safle ger Llanandras ym Mhowys, ac un arall ar safle ger Cas-gwent yn Sir Fynwy.

Daw’r achosion hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru ar 21 Medi.

Ym mis Medi'r llynedd, cafodd y Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) ei ddarganfod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.

Y mis canlynol, fe gafodd achos arall ei gofnodi ar fferm ar Ynys Môn, lle cafodd yr haint ei ddarganfod mewn anifail a gafodd ei symud o ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd y cyfyngiadau rheini eu codi ym mis Tachwedd.

Beth yw tafod glas?

Mae’r tafod glas yn firws yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.

Mae'n effeithio ar ddefaid, gwartheg, cilgnowyr eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.

Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.