Cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru yn pledio’n euog i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo
Mae Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, wedi pledio’n euog yn yr Old Bailey i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo tra’n aelod etholedig o Senedd Ewrop.
Cyfaddefodd Nathan Gill, 52, o Ynys Môn, ddydd Gwener i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.
Honnir iddo wneud datganiadau yn Senedd Ewrop, mewn erthyglau barn ac ar wasanaethau newyddion, fel 112 Ukraine, a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “er budd i Rwsia ynghylch digwyddiadau yn Wcráin”.
Clywodd y llys fod Oleg Voloshyn o Wcráin wedi gofyn i Nathan Gill wneud datganiadau penodol ar o leiaf wyth achlysur yn gyfnewid am arian.
Gwadodd Gill un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo yn ystod gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener.
Dywedodd yr erlynydd Mark Heywood KC fod pledio'n euog i wyth cyhuddiad yn “foddhaol” o safbwynt yr erlyniad am ei fod yn adlewyrchu’r gweithgareddau troseddol.
Daeth y cyhuddiadau wedi i Nathan Gill gael ei atal ym Maes Awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019.
Cafodd ei ethol yn aelod Ukip o Senedd Ewrop yn 2014 a daeth ei rôl i ben pan adawodd y DU'r Undeb Ewropeaidd yn 2020 – erbyn hynny roedd yn Aelod o Senedd Ewrop dros Blaid Brexit.
Roedd hefyd yn aelod o'r Senedd rhwng Mai 2016 a Rhagfyr 2017.
Arweiniodd ymgyrch etholiadol Reform UK yn etholiad Senedd Cymru yn 2021 ond gadawodd y blaid yn fuan ar ôl yr ymgyrch honno.
Llun gan Yui Mok / PA.