Person wedi ei anafu y tu allan i ysbyty yn y gorllewin
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys bod person wedi ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad â char y tu allan i adran frys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Derbyniodd yr heddlu alwad tua 11 fore Sadwrn.
Cafodd y person ei gludo i mewn i'r ysbyty, ac mae'n cael triniaeth yno.
Yn ôl y llu, bydd presenoldeb yr heddlu y tu allan i'r ysbyty am rai oriau, wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i geisio darganfod yr amgylchiadau arweiniodd at y gwrthdrawiad.
Mae hynny yn amharu rywfaint ar fynedfa'r adran frys, ond mae'r heddlu'n pwysleisio bod yr adran yn dal ar agor.
Mae'r llu hefyd yn awyddus i bwysleisio fod heddlu arfog wedi eu hanfon yno, gan mai'r uned honno oedd agosaf i'r ysbyty pan ddaeth yr alwad am y gwrthdrawiad.
Mae'r adran frys wedi ei lleoli yng nghefn Ysbyty Glangwili, gyda meysydd parcio gerllaw.
