Trump i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn y BBC

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yn dwyn achos iawndal yn erbyn y BBC wedi i'r gorfforaeth ymddiheuro am y modd y cafodd un o'i areithiau ei golygu ar raglen Panorama. 

Wrth ymddiheuro, gwrthododd y BBC gais yr arlywydd i dalu iawndal iddo, oherwydd y fersiwn a gafodd ei golygu o araith Donald Trump cyn terfysg adeilad y Capitol yn 2021. 

Yn ôl Arlywydd America, bydd yn dwyn achos iawndal yn erbyn y BBC yr wythnos nesaf, a bydd yn trafod y mater gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer dros y penwythnos. 

Tra'n siarad â gohebwyr ar ei awyren Air Force One, ychwanegodd Arlywydd America y bydd yn dwyn achos "rywle rhwng biliwn o ddoleri (£759.8 miliwn) a 5 biliwn o ddoleri (£3.79 biliwn), bur debyg rywbryd yr wythnos nesaf".

Tra'n siarad nos Wener, dywedodd: "Rwy'n meddwl bod yn rhaid i fi wneud hyn. Mae'n nhw hyd yn oed wedi cyfaddef iddyn nhw dwyllo… Fe wnaethon nhw newid geiriau yn dod allan o fy ngheg.

"Mae bobl y Deyrnas Unedig yn grac iawn oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd."

Mewn cyfweliad gyda sianel GB News ddydd Sadwrn, nododd Mr Trump: "Os na wnaf i hyn, os nad ydych yn atal hyn rhag digwydd, dydych chi ddim yn ei atal rhag digwydd i bobl eraill."

Ddydd Iau, dywedodd y BBC bod y modd y cafodd araith Donald Trump ei golygu wedi rhoi'r "argraff anghywir bod yr Arlywydd Trump wedi gwneud galwad uniongyrchol am weithredu treisgar," gan hefyd gadarnhau na fydd y bennod fyth yn cael ei darlledu eto.

Ond mae'r gorfforaeth yn "anghytuno'n gryf fod sail am achos difenwi". (defamation)

Yn sgil y sgandal, ymddiswyddodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, a phennaeth newyddion y gorfforaeth Deborah Turness ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn derbyn bod ein cynnwys wedi creu'r argraff yn anfwriadol ein bod yn dangos un rhan o'r araith, yn hytrach na dyfyniadau o wahanol bwyntiau yn yr araith, a bod hyn wedi rhoi'r argraff anghywir bod yr Arlywydd Trump wedi gwneud galwad uniongyrchol am weithredu treisgar."

Mae'r llefarydd ar ran y BBC hefyd wedi cadarnhau fod cyfreithwyr y darlledwr cyhoeddus wedi ysgrifennu at dîm cyfreithiol yr Arlywydd Trump mewn ymateb i lythyr a gafodd ei dderbyn ddydd Sul.

"Mae cadeirydd y BBC, Samir Shah, hefyd wedi anfon llythyr personol ar wahân at y Tŷ Gwyn yn ei gwneud hi'n glir i'r Arlywydd Trump ei fod e a'r gorfforaeth yn ymddiheuro am olygu araith yr arlywydd ar 6 Ionawr 2021, a oedd yn rhan o'r rhaglen," ychwanegodd y llefarydd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.