Cefn Fforest: Cyhuddo llanc 18 oed o lofruddio merch 17 oed
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 18 oed o Drecelyn o lofruddio a cheisio llofruddio, wedi digwyddiad ger y Coed Duon, Sir Caerffili ddydd Iau diwethaf.
Fe aeth yr heddlu i gartref yn Wheatley Place, Cefn Fforest tua 07:15 y bore, wedi adroddiadau fod dau o bobl wedi cael eu hanafu'n ddifrifol.
Bu farw merch 17 oed o Gefn Fforest yn y fan a'r lle, a chafodd dynes 38 oed ei chludo i'r ysbyty. Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau mai Lainie Williams oedd y ferch a fu farw
Wrth gyhoeddi nos Sadwrn bod dyn ifanc wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio, dywedodd yr heddlu ei fod hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mae'r dyn ifanc wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Llun, 17 Tachwedd.
Mae'r ddynes 38 oed a gafodd ei hanafu, bellach wedi gadael yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion arbenigol yn cefnogi'r teulu.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Townsend: “Rydym yn deall fod diddordeb yn yr achos hwn.
“Mae'n hanfodol fod pobl yn ystyried eu hiaith, yn enwedig sylwadau ar-lein, a allai effeithio ar ein gallu i sicrhau cyfiawnder
“Mae ein hymchwiliad yn parhau, felly mae'n debygol y bydd bobl leol yn dal i weld plismyn yn yr ardal.”
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu'r rhif 2500361653.