Cymru'n curo Japan o drwch blewyn yng Nghaerdydd
Fe gurodd Cymru Japan o 24-23 yng Nghaerdydd nos Sadwrn, a hynny yn eiliadau ola'r gêm.
Dyma'r trydydd tro mewn ychydig o fisoedd i Gymru wynebu Japan ar ôl ennill a cholli yn eu herbyn ar eu taith ym mis Gorffennaf.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru adref ers mis Hydref 2023.
Roedd prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol Steve Tandy yn chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf ers cael ei benodi gyda'r bachwr Dewi Lake yn gapten yn dilyn anaf i Jac Morgan yn y golled yn erbyn Yr Ariannin y penwythnos diwethaf o 28-52.
Fe ddechreuodd Cymru'n bwrpasol iawn yn eu crysau gwyn yn y munudau agoriadol gan benderfynu hepgor cic gosb at y pyst ac anelu am yr ystlys yn agos at llinell gais yr ymwelwyr yn hytrach.
Fe brofodd hyn yn ddewis doeth gyda'r maswr Dan Edwards yn llwyddo i osgoi tacladau Japan i groesi ar ôl rhediad grymus y blaenasgellwr Aaron Wainwright. Fe drosodd Edwards i ddodi Cymru 7-0 ar y blaen ar ôl pum munud.
Ond fe brofodd hyn yn sbardun i Japan, yn eu crysau glas, gan fwynhau cyfnod da o ymosod gyda'r asgellwr de Kippei Ishida yn croesi. Fe drosodd y maswr Seungsin Lee yn gelfydd o'r ystlys i ddod â'r sgôr yn gyfartal ar ôl 14 munud. Cymru 7-7 Japan.
Fe dderbyniodd clo Japan Epineri Uluiviti gerdyn melyn ar ôl 26 munud am dacl beryglus ac fe dderbyniodd yr wythwr Faulua Makisi un arall ar ôl 29 munud am dacl beryglus ar Dan Edwards.
Fe gododd cefnogwyr Cymru ar eu traed pan gafodd yr asgellwr Louis Rees-Zammit y bêl yn y 22 a brasgamu 50 medr i fyny'r cae cyn iddo golli ei afael ar y bêl i ddod â'i rhediad i ben.
Methodd Cymru'n llwyr â manteisio ar y cyfnod hynny ac fe dderbyniodd ffolineb yr asgellwr Josh Adams gerdyn melyn am gliro allan yn y ryc yn anghyfreithlon yn eiliadau ola'r hanner.
Fe darodd ymgais Japan am gic gosb y pyst a bu bron iddyn nhw sgorio cais ond cafodd y bêl ei tharo ymlaen er mawr ryddhad i Gymru.
Roedd y sgôr yn dal yn gyfartal ar yr egwyl. Cymru 7-7 Japan.
Diffyg disgyblaeth
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ddechrau'r ail hanner pan gafodd y cerdyn ei uwchraddio i un coch am 20 munud oherwydd graddfa uchel o berygl.
Fe aeth Japan ar y blaen ar ôl 47 munud pan giciodd Lee gôl gosb o 30 medr. Cymru 7-10 Japan.
Er fod Cymru i lawr i 14 dyn fe groesodd Rees-Zammit am gais ar ôl i Gymru wrthod cic gosb at y pyst. Gydag Edwards yn trosi o'r ystlys roedd Cymru nôl ar y blaen. Cymru 14-10 Japan.
Gyda'r ymwelwyr yn parhau i chwarae'n gyflym fe ddaeth cic gosb â nhw o fewn pwynt i Gymru ar ôl 55 munud. Cymru 14-13 Japan.
Gyda Chymru ychydig eiliadau cyn dod yn ôl i 15 dyn fe groesodd yr wythwr Makisi am gais wedi ei drosi gan Lee. Cymru 14-20 Japan i mewn i chwarter ola'r gêm.
Ond doedd Cymru ddim am ildio ac fe groesodd yr eilydd Nick Tompkins am gais ar ôl i Japan droseddu. Fe drosodd Edwards i ddodi Cymru nôl ar y blaen. Cymru 21-20 Japan.
Roedd diffyg disgyblaeth Cymru wedi ildio cyfleoedd i Japan trwy gydol y gêm ac fe fanteisiodd Lee gyda chic gosb arall i fynd ar y blaen unwaith yn rhagor ar ôl 65 munud. Cymru 21-23 Japan.
Wrth i Gymru chwilio am y fuddugoliaeth roedd camsyniadau trafod yn rhoi'r cyfle i Japan daro nôl.
Ac er i Gymru daflu popeth at yr ymwelwyr yn y munudau olaf roedd y cloc a Japan yn eu herbyn.
Ond fe gadwodd Cymru ati ac fe ddaeth cyfle i'r eilydd Jarrod Evans i lwyddo gyda chic gosb ddramatig gyda'r cloc yn y coch.
Y sgôr terfynol: Cymru 24-23 Japan.
Fe fydd Cymru nawr yn wynebu her Seland Newydd yng Nghaerdydd ymhen wythnos.
Llun: Asiantaeth Huw Evans