Storm Claudia: 'Digwyddiad difrifol' yn Nhrefynwy wedi llifogydd

Storm Claudia: 'Digwyddiad difrifol' yn Nhrefynwy wedi llifogydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi “digwyddiad difrifol” yn Nhrefynwy fore Sadwrn ar ôl i’r ardal gael ei tharo’n wael gan lifogydd Storm Claudia. 

Fe ddaeth y cyhoeddiad i rym am 01.30 oriau man fore Sadwrn yn dilyn llifogydd “difrifol ac eang” yn y dref a chymunedau cyfagos.  

Mae'r gwasanaeth tân yn dweud eu bod wrthi'n achub pobl sydd wedi eu dal yn y llifogydd, yng nghanol y dref.

Maent yn apelio ar bobl i beidio â defnyddio dronau yn yr ardal gan y gallai hynny amharu ar eu hymdrechion, gan "beryglu bywydau."

Daw'r alwad wrth i fwy na 25 o rybuddion yn gysylltiedig â llifogydd barhau mewn grym ar hyd a lled Cymru fore Sadwrn. 

Mae ‘na bedwar rhybudd am lifogydd difrifol mewn grym ar gyfer Afon Mynwy yn Uwch Mynwy, Osbaston ac Ynysgynwraidd. 

Mae rhybudd difrifol hefyd ar gyfer Afon Gwy yn Nhrefynwy. 

Image
Trefynwy
Llifogydd yn Nhrefynwy nos Wener (Llun: Richard John)

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn parhau yn ardal Trefynwy fore Sadwrn ac yn cael cymorth Heddlu Gwent, y gwasanaeth ambiwlans, criwiau achub mynydd a gwasanaethau brys eraill. 

Dywedodd Matt Jones o’r Gwasanaeth Tân: “Mae hwn yn ddigwyddiad ar raddfa fawr, ac mae ein criwiau a’n partneriaid wedi bod yn gweithio’n ddiflino drwy’r nos a’r dydd i helpu’r rhai sydd wedi dioddef. 

“Byddwn yn annog y cyhoedd i osgoi ardal Trefynwy yn llwyr. Mae’r llifogydd yn sylweddol, ac mae angen i ni gadw’r llwybrau’n glir i alluogi’r gwasanaethau brys i gyrraedd y bobl sydd eu hangen,” meddai’r rheolwr ardal. 

Mae sawl ffordd yn parhau ar gau oherwydd llifogydd yno ddydd Sadwrn.

Dywedodd Cyngor Sir Fynwy eu bod yn "gweithio'n ddiflino" er mwyn cefnogi trigolion ar hyd a lled y sir. Maen nhw'n annog pobl i ymweld â'u gwefan ar gyfer cefnogaeth ymarferol. 

Image
Llifogydd
Trefynwy (Llun: Richard John)

Mewn datganiad ar y cyd fore Sadwrn, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan a’r Dirprwy Prif Weinidog, Huw Irranca Davies eu bod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn gweithio drwy’r nos dan “amodau ofnadwy” er mwyn helpu eraill. 

“Mae Storm Claudia wedi achosi llifogydd sylweddol mewn rhannau o Gymru dros nos, sy’n parhau i effeithio ar gartrefi, busnesau, trafnidiaeth a seilwaith ynni”, meddai'r datganiad.    

“Os ydych chi wedi cael eich effeithio, dilynwch gyngor swyddogol CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), y gwasanaethau brys a’ch awdurdod lleol. 

“Yn aml ar adegau anodd rydyn ni’n gweld y gorau o bobl.” 

“Os yw’n bosibl, byddem yn annog pobl yn yr ardaloedd wedi ei effeithio arnynt i weld os yw cymdogion bregus yn iawn a chysylltu â’r heddlu ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn argyfwng drwy ddeialu 101.”

Brynhawn Gwener, tra roedd y storm yn ei hanterth, cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol bod dros 2,000 o gwsmeriaid heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.

Roedd nifer o gartrefi yng Nghasnewydd heb drydan fore Sadwrn.  

Mae'r llifogydd hefyd wedi effeithio ar wasanaethau trenau am fod llifogydd ar y cledrau.   

Image
Y Fenni
Cafodd ardaloedd yn Y Fenni eu taro'n wael gan lifogydd nos Wener (Llun: Jake Saunders)

Mae pum rhybudd pellach am lifogydd hefyd mewn grym ar Afon Hafren, Afon Gwy ac Afon Efyrnwy. Mae 21 o rybuddion i baratoi ar gyfer llifogydd ar draws Cymru.

Roedd dau rybudd oren a dau rybudd melyn yn effeithio ar nifer o ranbarthau yng Nghymru ddydd Gwener. 

Fe ddaeth yr olaf ohonynt, sef rhybudd melyn am law, i ben am 06.00 fore Sadwrn. 

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai cyfnodau o law barhau yng Nghymru yn ystod y dydd. 

Ac mae disgwyl tywydd oer yr wythnos nesaf.   

Prif lun: Richard John

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.