Cymru yn curo Liechtenstein mewn gêm rwystredig

Jordan James

Mae Cymru wedi curo Liechtenstein 0-1 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd gan hawlio tri phwynt gwerthfawr cyn eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Gogledd Macedonia yng Nghaerdydd nos Fawrth. 

Daeth tipyn o syndod rai oriau cyn y gêm wedi i Wlad Belg, sydd ar frig y grŵp, fethu â churo Kazakhstan oddi cartref yn Stadiwm Astana. 

1-1 oedd y sgôr terfynol. 

Cyn y gic gyntaf yn Vaduz, roedd Cymru heb chwaraewyr allweddol gyda'r capten Ben Davies a Kieffer Moore yn absennol oherwydd anaf, yn ogystal â Ben Cabango.        

Roedd cerdiau melyn hefyd yn achosi nerfusrwydd, gyda phedwar chwaraewr yn y tîm cychwynnol mewn perygl o golli'r gêm dyngedfennol yn erbyn Gogledd Macedonia nos Fawrth, pe bai cerdyn melyn arall yn cael ei roi iddyn nhw, sef Joe Rodon, Jordan James, Neco Williams ac Ethan Ampadu.

Ampadu arweiniodd Cymru i'r cae yn gapten yn lle Davies.  

Cymru oedd yn rheoli ar ddechrau'r gêm, a bu'n rhaid aros 24 munud cyn i gic Nathan Broadhead gyrraedd cefn y rhwyd, ond wedi iddi gael ei gwirio gan VAR, chafodd hi ddim ei chaniatáu, oherwydd cam sefyll. 

Roedd 70% o'r meddiant gan Gymru yn ystod hanner awr cyntaf y chwarae, a daeth cyfle da wedi 39 munud ond methodd Broadhead â dod o hyd i gefn y rhwyd. 

Ar hanner amser, roedd hi yn ddi-sgôr a chefnogwyr y Wal Goch wedi tawelu, ar ôl hanner cyntaf rhwystredig. Roedd 5,500 yn y dorf, gyda 3,000 ohonyn nhw wedi teithio o Gymru.  

Ar ddechrau'r ail hanner, yr un oedd y patrwm - Cymru yn hawlio'r meddiant ond yn methu a chreu cyfleoedd i sgorio. 

Ac wrth i'r tempo gynyddu, daeth Dan James o fewn trwch blewyn i sgorio wedi 54 munud, wrth i'r bêl daro'r postyn.     

Daeth Neco Williams yn agos rai munudau yn ddiweddarach.    

Ac o'r diwedd, daeth y gôl gyntaf wedi awr o chwarae, wrth i Jordan James sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad. 

Ond daeth siom i'r chwaraewr canol cae, funudau'n unig wedi ei gôl, wrth iddo gael cerdyn melyn. Bydd yn colli'r gêm yn erbyn Gogledd Macedonia nos Fawrth, sy'n ergyd i Gymru. 

Daeth newidiadau i dîm Cymru wedi 65 munud. Gadawodd Dan James, Nathan Broadhead a Mark Harris y cae, a daeth David Brooks, Rubin Colwill a Lewis Koumas yn eu lle. 

Daeth Liam Cullen i'r cae yn lle unig sgoriwr y gêm, Jordan James, gyda mwy na deng munud yn weddill o'r gêm.

Daeth cyfle i'r tîm cartref wedi 77 munud. Daeth Ferhat Saglam o hyd i Andreas Malin a oedd o flaen y gôl, ond aflwyddiannus oedd ei beniad. Dihangfa i Gymru. 

Daeth siom arall i Gymru gyda phum munud yn weddill, wrth i'r capten Ethan Ampadu gael cerdyn melyn, sy'n golygu y bydd e hefyd yn methu'r gêm yn erbyn Gogledd Macedonia nos Fawrth, sy'n ergyd drom.    

Daeth dihangfa arall i Gymru gydag ymdrech dda gan Liechtenstein yn yr amser ychwanegol. 

Siomedig 

Ond gorffennodd y gêm yn 0-1, gyda buddugoliaeth i Gymru.    

Yn ôl sylwebydd rhaglen Sgorio ar S4C, Malcolm Allen, roedd yn berfformiad siomedig. 

"Perfformiad ddim digon da, un tempo, ac o'dd hi'n hawdd i chwarae'n erbyn ni heno," meddai.  

Er na lwyddodd Gwlad Belg i guro Kazakhstan brynhawn Sadwrn, mae nhw yn dal yn ffefrynnau i ennill Grŵp J, gan mai Liechtenstein fydd eu gwrthwynebwyr nos Fawrth yn eu gêm gartref. Byddai'n ganlyniad rhyfeddol pe bai Gwlad Belg yn methu â hawlio'r triphwynt yn erbyn y tîm sydd wedi colli pob gêm yn y grŵp a heb sgorio gôl. 

Ond mae tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain i sicrhau’r ail safle, a llwybr gwell yn y gemau ail-gyfle. 

Bydd angen curo Gogledd Macedonia yng ngêm olaf y grŵp yng Nghaerdydd nos Fawrth. 

Os ydy Cymru yn methu a chyflawni hynny ac yn gorffen yn drydydd, maen nhw fwy neu lai yn sicr o gêm ail-gyfle, oherwydd eu llwyddiant nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Ond byddai hi'n llawer anoddach iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd wrth iddyn nhw orfod wynebu rhai o dimau cryfaf Ewrop.

Pe bai Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw ym Mhot 1 neu Bot 2 efo rownd gyn-derfynol yn y gêm ail-gyfle yng Nghaerdydd yn erbyn tîm sydd wedi eu dethol yn is na nhw.

Os ydyn nhw yn gorffen yn drydydd, fe fydd yn rhaid i Gymru ennill oddi cartref yn erbyn un o dimau cryfaf Ewrop yn y rownd gynderfynol.  

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het ar gyfer y gemau ail gyfle, ddydd Iau, 20 Tachwedd yn Zurich.    

Llun: Asiantaeth Huw Evans  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.