Ymgyrch i godi arian i ddwy chwaer o Wynedd sydd ag anafiadau difrifol
Mae ymgyrch codi arian wedi cael ei lansio i helpu teulu dwy chwaer o Wynedd a gafodd eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad ffordd ger Bangor nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad, rhwng VW Golf gwyn a Vauxhall Corsa du, ar Ffordd Treborth ar yr A487 am 20:31.
Fe gafodd merch 17 oed ei chludo i Ysbyty Gwynedd, ond bellach mae wedi ei chludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Fe wnaeth pobl eraill oedd yn teithio yn yr un car ddioddef anafiadau difrifol, gan hefyd dderbyn triniaeth feddygol.
Cafodd gyrrwr y VW Golf, dyn 57 oed, ei arestio ar amheuaeth o yrru heb fod mewn cyflwr addas oherwydd diod neu gyffuriau ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gyda mân anafiadau.
Mae ymgyrch i godi arian ar gyfer teulu'r ddwy ferch wedi cael ei sefydlu, gyda dros £7,000 wedi ei gasglu hyd yn hyn.
Mewn neges ar yr apêl, mae modryb y ferch ifanc a gafodd ei hanafu yn dweud bod ei "nith, Lydia, wedi ei chludo gan ambiwlans awyr i Stoke, a'i chwaer Lili wedi ei chludo i Alder Hey.
"Mae eu Tad gyda'r ferch ieuengaf yn Lerpwl, a Mam gyda Lydia (y gyrrwr) yn Stoke.
"Byddai unrhyw gymorth i leddfu'r pwysau sydd ar y teulu yn cael ei werthfawrogi yn fawr."
Llun: Gofundme