Trin clefyd Huntington's yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn 'oleuni yn y tywyllwch'
Mae Cymraes sydd yn byw gyda Huntington's - un o'r clefydau "mwyaf creulon a dinistriol" - wedi disgrifio'r driniaeth lwyddiannus gyntaf o'r clefyd fel "goleuni yn y tywyllwch."
Mae'r clefyd sydd gan amlaf yn etifeddol, yn lladd celloedd yr ymennydd yn ddi-baid ac yn debyg i gyfuniad o ddementia, clefyd Parkinson's a chlefyd niwronau echddygol (motor neurone disease).
Yn 2020, roedd Carly Evans o St Thomas yn Abertawe wedi derbyn prawf positif o'r clefyd - sydd fel arfer yn dechrau effeithio ar bobl pan maen nhw yn eu 30au a 40au.
Bellach yn 32 oed, mae Carly yn byw gyda'r ansicrwydd hynny, ac ar yr un pryd yn gofalu am ei thad sydd yn byw gyda symptomau’r clefyd.
"Pan ges i'r diagnosis roedd wir yn gyfnod anodd yn fy mywyd," meddai.
"Mae fy nhad yn brwydro gyda'r clefyd ar hyn o bryd, felly dwi'n gofalu amdano. Ac mae rhan fawr o hynny oedd bod rhaid i mi wybod.
"Roeddwn i mor sicr y bydd gen i'r clefyd hefyd achos dwi mor debyg iddo, ac roeddwn i angen gwybod er mwyn cynllunio fy nyfodol.
"Mae'n gallu bod yn fyd unig ac ynysig weithiau, mae'n effeithio ar fy nhad a fi a phawb arall yn fy nheulu, mae'n glefyd dinistriol, creulon.
"I ddod i delerau gyda'r clefyd, efallai dwi dal heb ddod i delerau gyda bob dim."
'Gobaith newydd'
Ddydd Mercher daeth cadarnhad gan ddoctoriaid bod y clefyd wedi cael ei drin yn llwyddiannus am y tro cyntaf.
Mae'r driniaeth newydd yn fath o therapi genyn sydd yn cael ei osod yn yr ymennydd yn ystod llawdriniaeth sydd yn para o 12 i 18 awr.
Dangosodd data bod effeithiau’r clefyd wedi arafu 75% yn y tair blynedd ers i gleifion dderbyn y driniaeth.
Mae hynny'n golygu bod rhai o symptomau'r clefyd byddai fel arfer yn cymryd blwyddyn i ddod i'r amlwg, bellach yn cymryd hyd at bedair blynedd.
Disgrifiodd Carly Evans y driniaeth newydd fel "goleuni yn y tywyllwch" i bobl sydd yn byw gyda'r clefyd.
"Roeddwn i wedi synnu, roedd yn deimlad llethol o emosiynau gwahanol achos mae hwn yn rhywbeth enfawr.
"Nawr mae gobaith newydd wedi cymaint o newyddion negyddol gyda'r clefyd, cymaint o rwystrau a wedyn mae'r newyddion positif yma sydd yn wych.
"Mae hwn yn oleuni yn y tywyllwch. Ers dwi'n cofio dwi wedi cael y galar disgwyliedig am fy nyfodol oherwydd dyw e ddim beth roeddwn i'n ei feddwl y byddai, ac mae hynny wedi bod yn anodd.
"Ond mae'r newyddion yma yn obeithiol, optimistig ac mae angen i'r newyddion yma fod pobman."
Codi ymwybyddiaeth
Os oes gan un o'ch rhieni glefyd Huntington, mae siawns o 50% y byddwch chi'n etifeddu'r genyn ac yn y pen draw yn datblygu clefyd Huntington hefyd.
Mae clefyd Huntington yn cael ei achosi gan wall mewn rhan o'n DNA o'r enw'r genyn huntingtin.
Mae person yn datblygu'r clefyd pan mae'r mwtaniad (mutation) hwn yn troi protein arferol sydd ei angen yn yr ymennydd – o'r enw'r protein huntingtin – yn lladdwr niwronau.
Yn ôl ymchwil diweddar, mae gan tua 75,000 o bobl yn y DU, Ewrop ac America glefyd Huntington, gyda channoedd o filoedd yn cario'r mwtaniad sy'n golygu y byddant yn datblygu'r clefyd.
Credai Carly bod angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o'r clefyd a'i symptomau angheuol.
"Dwi wedi rhoi cynnig ar waith i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd ac wedi cwrdd â llawer o bobl yn yr un sefyllfa â mi, sydd wedi bod o gymorth mawr.
"Yr hyn dwi wedi gwneud yw defnyddio'r ansicrwydd mewn ffordd bositif mewn gwirionedd.
"Ar hyn o bryd dwi'n hyfforddi i fod yn seicotherapydd ac yn ysgrifennu fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd Meistr ar y gefnogaeth ddilynol ar ôl profion genetig oherwydd y bwlch sydd o ran cefnogaeth iechyd meddwl.
"Dwi wedi gwthio ymlaen a'r flwyddyn nesaf dwi'n gwneud Marathon Llundain ar gyfer Cymdeithas Clefyd Huttington, felly fi'n gwthio fy hun i wneud pethau gwahanol er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian."