Marwolaeth Tonysguboriau: Dyn yn gwadu llofruddio menyw
Mae dyn wedi pledio’n ddieuog wedi iddo gael ei gyhuddo o lofruddiaeth Joanne Penney a gafodd ei saethu’n farw fis Mawrth.
Ddydd Iau fe gafodd Renaldo Baptiste ei gyhuddo o lofruddio Ms Penney, oedd yn 40 oed, wedi iddi farw mewn eiddo yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ar 9 Mawrth.
Clywodd agoriad cwest ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.
Fe ymddangosodd Renaldo Baptiste, 38 oed, yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener gan siarad i gadarnhau ei enw a sut oedd yn pledio yn unig.
Plediodd yn ddieuog o lofruddio Ms Penney ac o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol ac yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Ef yw'r 12fed person i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Ms Penney.
Mae disgwyl i achos llys cymryd lle ar 20 Hydref ac fe fydd gwrandawiad yr wythnos nesaf er mwyn penderfynu a dylai achos Baptiste fod yn rhan o hynny.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd: “Bydd y gwrandawiad nesaf i chi ar 2 Hydref. Byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa.”
Mewn teyrnged yn dilyn ei marwolaeth dywedodd teulu Ms Penney na fyddan nhw byth yn anghofio ei “charedigrwydd, cryfder a’i chariad am ei theulu".