
Abertawe: Dedfryd oes i ddyn am lofruddio menyw 'garedig' 47 oed
Mae dyn 34 oed wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio menyw 47 oed.
Cafodd Matthew Batttenbough, sydd heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Plediodd yn euog i lofruddio Leanne Williams ar 18 Awst.
Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod yn ei chartref at Ffordd Gomer yn Townhill yn y ddinas ar 27 Chwefror.
Fe wnaeth arolwg post-mortem ganfod bod hi wedi dioddef sawl anaf oedd yn gyson ag ymosodiad.
Bydd Battenbough yn treulio o leiaf 20 mlynedd ac 114 diwrnod dan glo.

Mewn datganiad dywedodd teulu Leanne: “Roedd Leanne yn brydferth, yn gryf, ac yn garedig.
"Roedd hi wrth ei bodd â natur ac anifeiliaid ac roedd ganddi gysylltiad arbennig â cheffylau.
“Roedd hi’n dyheu am helpu eraill trwy roi’r cyfle iddyn nhw gael mynediad at geffylau a merlod wedi’u hyfforddi’n arbennig a oedd yn sensitif i iechyd meddwl a phroblemau eraill.
“Bydd colled fawr ar ei hôl.
“Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am eu cefnogaeth barhaus a diwydrwydd dyladwy’r tîm ymchwilio.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt ei fod yn gobeithio bydd dedfryd Battenbough yn "ryw fath o gysur" i deulu Leanne.
“Roedd y newyddion am farwolaeth Leanne yn dorcalonnus i’w theulu ac i gymunedau ehangach Townhill ac Abertawe," meddai.
“Roedd gweithredoedd Matthew Battenbough wedi dod a bywyd Leanne i ben.
"Cafodd bywydau eu rhywgo'n ddarnau ac fe achosodd ofid aruthrol i’w deulu ei hun hefyd.
“Gobeithiwn fod y ddedfryd hon yn cynnig rhywfaint o gysur i deulu a ffrindiau Leanne.
“Hoffwn ddiolch i gymuned Townhill am y ffordd yr oeddynt wedi cynorthwyo a chefnogi’r ymchwiliad yn ystod cyfnod trist ac anodd iawn.”