Heddlu Dyfed-Powys: Caniatáu mynediad i gamerâu ffilmio archwiliadau trais yn y cartref am y tro cyntaf
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi caniatáu mynediad am y tro cyntaf erioed i gamerâu allu ffilmio eu harchwiliadau o drais yn y cartref mewn rhaglen ddogfen newydd.
Fe fydd rhaglen ddogfen 'Curo Tu Ôl I’r Drws' yn rhannu golygfeydd tu ôl i'r llen, drwy ddangos sut y mae'r llu yn mynd i'r afael ag achosion o drais yn y cartref.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn delio â dros 214 o ddigwyddiadau o drais yn y cartref bob wythnos, ac nid oes unrhyw gymorth am filltiroedd mewn nifer o'r achosion hyn.
Dywedodd un swyddog: "Os chi’n byw ar fferm lawr trac tair milltir, smo chi’n gweld pobl. Yr unig berson sydd o gwmpas yw’r troseddwr ei hun.”
Ychwanegodd swyddog arall: "Mae pobol yn meddwl achos bod ni’n byw mewn cymunedau bach gwledig, bod y pethau hyn ddim yn digwydd. Ond mae nhw yn digwydd – ac weithiau mae bod yn bell o bob man yn ei gwneud hi’n waeth."
Mae'r rhaglen yn dilyn Ditectif Gwnstabl Emma Evans a’i chyd-weithwyr yn CID Rhydaman, gan gynnwys y Ditectif Ringyll Phil Morgan a'r Arolygydd Gareth Jones yn Aberystwyth.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Phil Morgan: "Pryd dyn ni’n siarad gyda phobl yn y sefyllfa ’na, mae’n nhw’n gweld y cam-drin domestig fel rhywbeth sy’n normal, fel just cweryla rhwng partneriaid.
"Dyn ni’n sgwrsio gyda nhw, yn gwrando, a helpu nhw i weld bod ffordd arall.”
Mae'r rhaglen yn dangos sut y gall tystiolaeth o gamerâu'r heddlu a chyfweliadau fod yn ddigon i sicrhau cyfiawnder yn erbyn y troseddwr, a hynny wrth i fwy a mwy o ddioddefwyr benderfynu peidio rhoi tystiolaeth neu os ydyn nhw yn rhy ofnus i siarad.
Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu ychydig wythnosau cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn, sef ymgyrch ryngwladol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched.
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Emma Evans: "Os gallwn ni helpu un person a falle bydd hynny yn helpu’r person nesaf. Dyna’r peth gorau am weithio yn y byd trais yn y cartref."