ASau i godi cwestiynau am y BBC yn Nhŷ'r Cyffredin
Mae disgwyl i ASau godi cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach ynglŷn â'r cythrwfl yn y BBC.
Ddydd Llun fe ddywedodd Donald Trump ei fod wedi anfon llythyr at y BBC yn bygwth camau cyfreithiol, wedi i'w araith gael ei golygu ar raglen ddogfen Panorama.
Yn ôl adroddiadau gan sianel Fox News yn America, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn bygwth dwyn achos gwerth biliwn o ddoleri yn erbyn y BBC os nad yw'r Gorfforaeth y cydymffurfio i'w ofynion erbyn 22:00 ar ddydd Gwener 14 Tachwedd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad ydyn nhw yn credu bod y BBC yn sefydliadol bias ond mae'r Ceidwadwyr a Reform wedi bod yn llawer mwy beirniadol.
Dyw hi ddim yn glir eto os fydd yr ysgrifennydd diwylliant Lisa Nandy yn ateb cwestiynau am y mater.
Pryderon
Gwrthod honiadau bod y gorfforaeth yn bias mae Cadeirydd y BBC. Mae Samir Shah hefyd wedi gwrthod yr honiad bod yna coup wedi bod gan aelodau'r bwrdd i gael gwared a Tim Davie, y cyfarwyddwr cyffredinol a phrif weithredwr yr adran newyddion, Deborah Turness.
Fe wnaeth y ddau ymddiswyddo nos Sul wedi i'r BBC gael ei chyhuddo o gamarwain y cyhoedd drwy olygu araith Arlywydd yr Unol Daleithiau yn y rhaglen ddogfen Trump: A Second Chance? Cafodd yr araith ei chyflwyno cyn y terfysg yn Capitol Hill yn Ionawr 2021.
Roedd Michael Prescott, cyn-gynghorydd allanol i bwyllgor safonau golygyddol y BBC, wedi codi pryderon yn yr haf am y ffordd y cafodd clipiau o araith yr Arlywydd ar Ionawr 6, 2021, eu golygu.
Roedd hefyd wedi codi pryderon ynghylch ymdriniaeth BBC Arabic o ryfel Israel-Gaza, sylw'r BBC i faterion pobl traws, a diffyg gweithredu i fynd i'r afael â'r hyn a alwodd yn "broblemau systemig" o ran gogwydd golygyddol.
Mae Samir Shah wedi dweud mewn llythyr i'r Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bod y BBC yn “derbyn bod y modd y cafodd yr araith ei golygu wedi rhoi'r argraff bod yna alwad uniongyrchol am weithredu treisgar,” meddai.
“Hoffai'r BBC ymddiheuro am y camgymeriad barn hwnnw.”
Bwrdd y BBC
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey wedi dweud y dylai Syr Robbie Gibb, sydd yn gyn bennaeth cyfathrebu gyda'r Ceidwadwyr rhoi'r gorau i fod yn aelod o fwrdd y BBC.
Cafodd ei benodi gan y cyn brif weinidog, Boris Johnson.
Mewn erthygl yn The Guardian mae Syr Davey yn dweud bod "poblyddwr (populists) yn yr asgell dde wedi bod yn ymosod ar y BBC am flynyddoedd." Mae'n dweud na ddylai Syr Robbie gael unrhyw ran mewn penodi cyfarwyddwr cyffredinol newydd er mwyn sicrhau bod y gorfforaeth yn parhau yn annibynnol ac yn ddiduedd.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch wedi dweud y dylai'r ffocws fod ar y camgymeriad sydd wedi eu gwneud yn hytrach na "chwrso pobl am eu barn wleidyddol".