Rhybudd melyn am law trwm mewn grym yn y de a'r canolbarth
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym yn rhan helaeth o'r de a gorllewin Cymru ddydd Mawrth.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 07:00 fore Mawrth a 23:59.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai mannau ddioddef llifogydd erbyn prynhawn dydd Mawrth.
Mae perygl hefyd y gallai'r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau pŵer.
Fe allai'r glaw achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal.
Fe fydd y rhan fwyaf o lefydd yn y de, y canolbarth a'r gorllewin yn gweld tua 30-50mm o law ddydd Mawrth, gyda rhai llefydd ar dir uwch yn profi hyd at 60-80mm o law.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid ymestyn y rhybudd ddydd Mercher os fydd y tywydd gwlyb yn parhau nos Fawrth.
Fe fydd y rhybudd melyn am law mewn grym yn y siroedd isod:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Benfro
Sir Fynwy
Sir Gâr
Torfaen