Dysgwr yn pasio prawf gyrru ysgrifenedig ar ei 75ed ymdrech
Llwyddodd dysgwr i basio ei brawf gyrru ysgrifenedig ar ôl ymgeisio 75 o weithiau, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi .
Yn ôl yr AA Driving School, a gyhoeddodd yr ystadegau, "mae'n hawdd tanamcangyfrif" lefel yr wybodaeth sydd ei angen i basio'r arholiad.
Mae pob prawf yn costio £23, sy'n golygu y byddai'r ymgeisydd a basiodd y prawf y llynedd wedi gwario cyfanswm o £1,725.
Yn ôl y casgliad o ystadegau, mae dysgwr gyrru arall wedi ymgeisio 128 times o weithiau heb lwyddiant ar gost o £2,944.
Mae'r prawf ysgrifenedig yn gyfuniad o gwestiynau am reolau'r ffordd a gyrru diogel, yn ogystal â fideos sy'n profi gallu'r ymgeisydd i asesu a rhagweld perygl.
Mae'n rhaid i ddysgwyr basio'r prawf ysgrifenedig cyn archebu'r prawf ymarferol.
Y nifer fwyaf uchaf o ymdrechion ar gyfer y prawf gyrru ymarferol cyn pasio y llynedd oedd 21 o weithiau, gan gostio rhwng £1,302 a £1,575 yn ddibynnol ar leoliad y prawf
Mae dau o bobl wedi ymgeisio 37 o weithiau heb basio, gyda hynny'n costio hyd at £2,220 yr un.
Cafodd yr AA Driving School afael ar y ffigyrau ar ôl anfon cais Rhyddid Gwybodaeth at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe.
Mae ystadegau eraill gan y DVSA yn dangos i 44.9% basio'r prawf ysgrifenedig yn y flwyddyn ariannol 2024/25.
Llwyddodd 48.7% i basio'r prawf gyrru ymarferol.