Farage: Swydd flaenllaw cyn Brif Weithredwr Plaid Cymru yn ‘brawf o ogwydd y BBC’
Mae Nigel Farage wedi dweud bod y ffaith bod un o gyn brif weithredwyr Plaid Cymru mewn swydd flaenllaw o fewn y BBC yn “brawf” fod gan y gorfforaeth duedd wleidyddol tuag at y chwith.
Mewn neges arlein ddydd Llun, cyfeiriodd arweinydd plaid Reform UK at swydd Rhuanedd Richards fel Cyfarwyddwr Dros Dro y BBC ar y Cenhedloedd.
Roedd hynny’n "brawf fod y BBC wedi ei heintio gyda thuedd adain chwith hyd at y brig,” meddai.
Ymatebodd llefarydd ar ran y BBC gan ddweud bod Rhuanedd Richards wedi gweithio i’r BBC ers 2018 ac yn Gyfarwyddwr BBC Cymru ers 2021.
“Mae hi’n Gyfarwyddwr Dros Dro ar y Cenhedloedd ar hyn o bryd,” medden nhw.
"Nid yw Rhuanedd wedi celu ei chefndir proffesiynol ac mae hi’n gwbl ymroddedig i gynnal safonau didueddrwydd y BBC."
Inline Tweet: https://twitter.com/Nigel_Farage/status/1987935787841728551?s=20
Daw sylwadau Nigel Farage wedi i Donald Trump anfon llythyr at y BBC yn bygwth camau cyfreithiol, wedi i'w araith gael ei golygu ar raglen ddogfen Panorama.
Yn ôl adroddiadau gan sianel Fox News yn America, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn bygwth dwyn achos gwerth biliwn o ddoleri yn erbyn y BBC os nad yw'r Gorfforaeth y cydymffurfio i'w ofynion erbyn 22:00 ar ddydd Gwener 14 Tachwedd.
Wrth ymateb, dywedodd y Gorfforaeth y byddan nhw yn "adolygu'r llythyr ac yn ymateb yn uniongyrchol maes o law."
Fore Llun, ymddiheurodd Cadeirydd y BBC am y modd y cafodd yr araith gan Arlywydd America ei golygu.
Daeth ymddiheuriad Samir Shah ar ôl i’r cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie, a phrif weithredwr yr adran newyddion, Deborah Turness, ymddiswyddo nos Sul.
Dywedodd Samir Shah mewn llythyr i'r Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bod y BBC yn “derbyn bod y modd y cafodd yr araith ei golygu wedi rhoi'r argraff bod yna alwad uniongyrchol am weithredu treisgar,” meddai.
“Hoffai'r BBC ymddiheuro am y camgymeriad barn hwnnw.”
Y cefndir
Roedd y gorfforaeth wedi’i chyhuddo o gamarwain y cyhoedd drwy olygu araith Arlywydd yr Unol Daleithiau yn y rhaglen ddogfen Trump: A Second Chance? Cafodd yr araith ei chyflwyno cyn y terfysg yn Capitol Hill yn Ionawr 2021.
Roedd Michael Prescott, cyn-gynghorydd allanol i bwyllgor safonau golygyddol y BBC, wedi codi pryderon yn yr haf am y ffordd y cafodd clipiau o araith yr Arlywydd ar Ionawr 6, 2021, eu golygu.
Roedd hefyd wedi codi pryderon ynghylch ymdriniaeth BBC Arabic o ryfel Israel-Gaza, sylw'r BBC i faterion pobl traws, a diffyg gweithredu i fynd i'r afael â'r hyn a alwodd yn "broblemau systemig" o ran gogwydd golygyddol.
Dywedodd ei neges, a oedd wedi mynd i ddwylo papur newydd y Telegraph, ei fod wedi teimlo "anobaith" ynghylch y diffyg gweithredu gan reolwyr y BBC "pan ddaw materion i'r amlwg".
Yn ei lythyr at y pwyllgor diwylliant, mae Samir Shah hefyd fynd i'r afael â phryderon ynghylch BBC Arabic a newyddiaduraeth mewn dyfnder yn y BBC.
"Yn ogystal â'r straeon penodol, nododd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau Golygyddol bryderon hefyd ynghylch problemau sylfaenol - er enghraifft yn y gwasanaeth Arabeg neu newyddiaduraeth mewn dyfnder,” meddai.
“Trafodwyd y ddau faes hyn yn fanwl yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau Golygyddol ac mae camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r math hwn o broblem.
"Mae Tîm Arabeg y BBC wedi'i ailstrwythuro, penodwyd Pennaeth Ansawdd a Safonau Golygyddol newydd sy'n siarad Arabeg yn y Gwasanaeth Byd-eang, ac mae uned ymchwil cyfryngau cymdeithasol newydd wedi'i sefydlu i wirio'r hyn sy’n ymddangos ar y gwasanaeth.
"Yn y DU, mae BBC News wedi penodi Golygydd Gweithredol newydd ar gyfer Ansawdd a Safonau Golygyddol i oruchwylio allbwn newyddion domestig.
“Bydd BBC News yn penodi Cyfarwyddwr Rhaglenni Dogfen Newyddion a Newyddiaduraeth Mewn Dyfnder newydd yn fuan a fydd yn goruchwylio ein hallbwn materion cyfoes."