Galw am gymorth i ddod o hyd i drysorau a gafodd eu dwyn o Amgueddfa Sain Ffagan
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau'r rhestr o drysorau a gafodd eu dwyn o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ym mis Hydref.
Mae Gavin Burnett, 43, a Darren Burnett, 50, y ddau o Northampton, wedi cael eu cyhuddo o fyrgleriaeth ac wedi’u cadw yn y ddalfa.
Mae menyw 45 oed o Sir Northampton a gafodd ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n parhau i chwilio am yr eitemau canlynol fel rhan o'r ymchwiliad:
• Lwnwla aur o'r Oes Efydd Gynnar o Lanllyfni, Gwynedd (uchod).
• Casgliad o bedwar breichled aur o'r Oes Efydd Ganol o Lanwrthwl, Powys.
• Casgliad o bum eitem aur o'r Oes Efydd Ganol yng Nghapel Isaf, Sir Gaerfyrddin.
• Casgliad o dair eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Llanddewi-yn-heiob, Powys.
Fe gafodd yr eitemau eu dwyn o gas arddangos ym mhrif adeilad yr amgueddfa tua 00.30 ddydd Llun, 6 Hydref .
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers o Heddlu De Cymru: “Er bod dau ddyn wedi’u cyhuddo, mae’r ymchwiliad yn parhau.
“Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r eitemau a gafodd eu dwyn sy’n weddill fel y gellir eu dychwelyd i’w cartref cywir.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
‘Treftadaeth’
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru: “Hoffem ddiolch i’r heddlu am eu hymchwiliad parhaus i ddod o hyd i’r eitemau amhrisiadwy ac unigryw hyn sy’n rhan o hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru.
“Hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am eu lleoliad i ddod ymlaen at yr heddlu fel y gellir eu dychwelyd i’w cartref cywir o fewn casgliad cenedlaethol Cymru i bawb gael ymweld â nhw a’u mwynhau.”
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 2500319180.