Cyhuddo dyn 57 oed yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mangor
Mae dyn 57 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mangor nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad, rhwng VW Golf gwyn a Vauxhall Corsa du, ar Ffordd Treborth ar yr A487 am 20:31.
Mae Stephen Mills wedi ei gyhuddo o dri chyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus.
Mae'n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.
Fe gafodd merch 17 oed ei chludo i Ysbyty Gwynedd, ond bellach mae wedi ei chludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Fe wnaeth pobl eraill oedd yn teithio yn yr un car ddioddef anafiadau difrifol, gan hefyd dderbyn triniaeth feddygol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiad Difrifol: "Yn gyntaf, mae fy meddyliau gyda'r tri pherson ifanc sydd yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad, a hoffwn ddiolch i'r rhai a ddaeth i helpu.
"Hoffwn ganmol gwaith y gwasanaethau brys yn eu hymateb i'r digwyddiad, y tîm ymchwilio sydd wedi gweithio yn ddiflino, a'n swyddogion arbenigol sydd yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r teuluoedd yn ystod y cyfnod ofnadwy o anodd yma.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i'r rhai a ddaeth ymlaen yn dilyn ein hapêl, a dwi'n gofyn i unrhyw un sydd â CCTV, neu ddeunydd fideo o Golf VW yn cael ei yrru ym Miwmares, Llanfairpwll, Porthaethwy neu ym Mangor Uchaf rhwng 19:30 a 20:30 ddydd Mawrth i gysylltu â ni."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000787692.