Y Rhyl: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio ar ôl anafiadau i ddwy ddynes
Mae dyn 37 oed wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad yn ymwneud â dwy ddynes yn y Rhyl.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â digwyddiad mewn cartref ar Meredith Crescent ar 3 Gorffennaf.
Fe wnaeth dwy ddynes ddioddef anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad, meddai’r heddlu.
Ymddangosodd Matthew MacMillan, o Meredith Crescent, yn Llys y Goron yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo o'r carchar ddydd Gwener.
Plediodd yn ddieuog i'r ddwy drosedd.
Bydd Mr MacMillan, sydd wedi'i gadw yn y ddalfa, yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, 7 Tachwedd.
Bydd ei achos llys yn dechrau ar 12 Ionawr 2026.