Arestio dau ddyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf
Mae dau ddyn arall wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf.
Fe fu farw Liam Woolford, 22 oed, o Porth yn yr ysbyty ddydd Mawrth.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i Poets Close yn Rhydyfelin toc wedi 00.40 y diwrnod hwnnw yn dilyn adroddiad am ffrwgwd.
Fe gafodd dyn 30 oed o Rydyfelin ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac ymgais i lofruddio, tra bod dyn 22 oed o Donteg wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Maen nhw’n parhau yn y ddalfa.
Roedd menyw 20 oed o Benygraig hefyd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o glwyfo gyda bwriad. Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu gynnal ymholiadau pellach.
Bellach, mae dau ddyn arall oedd wedi eu cludo i’r ysbyty ddydd Mawrth, dyn 23 oed o Rydyfelin a dyn 24 oed o Borth, hefyd yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
“Hoffen ni fynegi ein diolchgarwch i gymuned leol Rhydyfelin am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn,” meddai Heddlu De Cymru.