Sut mae dychwelyd OBE? Michael Sheen yn datgelu'r broses

Michael Sheen

Mae'r actor Michael Sheen wedi datgelu'r broses o ddychwelyd OBE ar ôl iddo benderfynu gwneud hynny.

Yn 2017 roedd Mr Sheen o Bort Talbot wedi dychwelyd yr OBE a dderbyniodd yn 2009 am ei waith yn y byd drama.

Penderfynodd beidio gyhoeddi'r penderfyniad hwnnw ar y pryd, ond mewn cyfweliad yn 2020 fe ddywedodd ei fod yn teimlo bod angen iddo ddychwelyd yr anrhydedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r actor o Bort Talbot yn dweud ei fod wedi ymfalchïo fwyfwy yn ei Gymreictod.

Fe fydd yn chwarae rhan y twysog Owain Glyndŵr mewn drama newydd gan Welsh National Theatre, ac mae ei areithiau i chwaraewyr pêl-droed Cymru ac ar raglen deledu A League Of Their Own wedi mynd yn feiral.

"Mae fy Nghymreictod wedi dod yn bwysicach i mi," meddai ar bodlediad The Romesh Ranganathan Show.

"Mae sawl person yn meddwl bod Cymreictod am rygbi, corau meibion a Tom Jones, ac mae hynny yn rhan fawr ohono, y pethau diwylliannol.

"Ond mae Cymreictod yn rhywbeth sydd wedi fy nghyfoethogi wrth i mi fynd yn hŷn a dwi'n caru hynny, maen un o'r pethau dwi'n caru mwyaf am fy mywyd."

Sut mae dychwelyd OBE?

Fe benderfynodd Sheen i ddychwelyd ei OBE yn 2017, a hynny wrth iddo baratoi ar gyfer rhoi darlith Coffa Raymond Williams.

Yn 1971 fe ysgrifennodd Raymond Williams darn dan yr enw 'Who Speaks for Wales?', ac mae'r ddarlith coffa fel arfer yn archwilio themâu yn ymwneud â hunaniaeth Gymreig a chyfiawnder cymdeithasol.

Wrth ymchwilio ar gyfer y ddarlith roedd Michael Sheen wedi "addysgu fy hun am hanes Cymru, hanes gwleidyddol Cymru a hanes economaidd-gymdeithasol Cymru".

Dywedodd ei fod wedi "radicaleiddio" erbyn diwedd ysgrifennu'r ddarlith a'i fod yn sylweddoli nad oedd yn gallu rhoi'r ddarlith tra bod ganddo OBE.

Ond wedi iddo wneud y penderfyniad, roedd rhaid iddo ddychwelyd y fedal.

"Mae rhaid i chi ysgrifennu llythyr i'r Tywysog Charles, y tywysog ar y pryd," meddai.

"Wedyn mae rhaid i rywun, yn gorfforol, dod a chymryd y fedal yn ôl a'i ddychwelyd i'r swyddfa.

"Ac mae rhaid i chi ysgrifennu dogfen sydd yn dweud eich bod chi byth eisiau cael eich holi eto i dderbyn OBE."

Image
Michael Sheen yn portreadu Owain Glyndŵr
Michael Sheen yn portreadu Owain Glyndŵr.

Ychwanegodd nad oedd yn bwriadu "amharchu unrhyw un o gwbl" wrth ddychwelyd yr OBE, a'i fod wedi teimlo'n "anrhydeddus iawn" o'i dderbyn.

Ond roedd y penderfyniad yn "mater o egwyddor".

"Pan gyrhaeddodd y pwynt hwnnw, pan oedd yn rhaid i mi wneud y penderfyniad hwn, sylweddolais i na allwn ddweud y pethau roeddwn i'n mynd i'w dweud am natur y berthynas rhwng Cymru a'r wladwriaeth Brydeinig a'i hanes," meddai.

"Sylweddolais nid oeddwn i'n gallu cael 'Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig' ar ôl fy enw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.