Enwi Elon Musk a'r Tywysog Andrew mewn dogfennau Epstein newydd
Mae'r biliwnydd Elon Musk a'r Tywysog Andrew wedi cael eu henwi mewn dogfennau newydd yn ymwneud â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Mae'n ymddangos fod y dogfennau sydd wedi eu rhannu ag un o bwyllgorau cyngres yr Unol Daleithiau gan Ystâd Jeffrey Epstein yn dangos fod Musk wedi cael ei wahodd i ynys Epstein ym mis Rhagfyr 2014.
Mae enw'r Tywysog Andrew wedi'i gynnwys ar awyren o New Jersey i Fflorida ym mis Mai 2000.
Mae'r Tywysog Andrew eisoes wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Mae Mr Musk wedi dweud yn y gorffennol fod Epstein wedi ei wahodd i'r ynys ond ei fod wedi gwrthod.
Mae un llyfr cyfrifon yn cofnodi dau gyfeiriad am daliadau i ddylino'r corff (massage) ar gyfer person o'r enw 'Andrew' ym mis Chwefror a Mai 2000.
Er fod cofnodion y Palas, lluniau ac adroddiadau'r wasg o'r cyfnod yn awgrymu fod y Tywysog Andrew wedi teithio i UDA yn y cyfnod hwnnw, nid yw'n glir pwy yw'r 'Andrew' sy'n cael ei gyfeirio ato yn y cofnodion.
Yn ogystal â Musk a'r Tywysog Andrew, mae'r dogfennau hefyd yn cynnwys enwau ffigyrau blaenllaw eraill, gan gynnwys y dyn busnes Peter Thiel, a Steve Bannon, cyn-gynghorydd i Donald Trump.
Ond nid yw'n cael ei awgrymu fod y rhai sydd wedi eu henwi yn y dogfennau yn ymwybodol o'r weithgaredd droseddol honedig y cafodd Epstein ei arestio amdani yn ddiweddarach.
Cafwyd hyd i Epstein yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, yn yr Unol Daleithiau, ym mis Awst 2019 tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau rhyw.