Goroeswr yr Holocaust a'i gŵr wedi marw mewn clinig yn Y Swistir

ruth posner.jpg

Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai. 

Mae un o oroeswyr yr Holocaust, Ruth Posner, a'i gŵr Michael, wedi marw mewn clinig yn Y Swistir. 

Mewn e-bost i'w teulu a'u ffrindiau, fe ddywedodd y ddau, a oedd yn eu 90au, eu bod wedi lladd eu hunain mewn clinig yn Y Swistir, a'u bod wedi "cael digon" ac nad oedden nhw eisiau "bodoli yn unig".

Fe wnaeth Mrs Posner ddianc o geto yn Warsaw, gan gyrraedd y DU fel dynes ifanc, wedi iddi golli y mwyafrif o'i theulu mewn gwersyll crynhoi yn yr Ail Ryfel Byd. 

Fe wnaeth gyfarfod ei gŵr, Michael, a oedd yn fferyllydd Iddewig a gafodd ei eni yn Belfast, yn Llundain, gan dreulio bron i 75 mlynedd gyda'i gilydd. 

Mewn e-bost a gafodd ei anfon at eu hanwyliaid yr wythnos hon, fe ddywedodd y ddau: "Roedd y penderfyniad yn un yr oedd y ddau ohonom yn gytûn arno, a heb unrhyw bwysau o'r tu allan. Roeddem wedi byw bywyd hir, a hynny gyda'n gilydd, am bron i 75 mlynedd.

"Fe wnaeth pwynt gyrraedd, gyda'n golwg a'n clyw yn gwaethygu, a diffyg egni, mai dim ond bodoli oeddem ni, yn hytrach na byw, ac ni fyddai unrhyw ofal yn gallu gwella hynny."

Y gred yw fod yr e-bost hefyd yn trafod sut y gwnaeth y ddau fwynhau bywyd, heblaw am y tristwch mawr o golli eu mab yn ei 30au. 

Y gred yw fod y ddau yn gadael un ŵyr.

Er bod cyfraith ddrafft yn cael ei hystyried yn San Steffan i wneud cymorth i farw yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, fe fyddai ond yn berthnasol i oedolion sydd yn derfynol sâl, gyda llai na chwe mis i fyw. 

Y gred yw nad oedd Mrs Posner na'i gŵr yn derfynol sâl. 

Dywedodd yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrthsemitiaeth (CAA), eu bod yn “dorcalonnus”o glywed am farwolaeth y ddau. 

Dywedodd y grŵp fod Mrs Posner wedi siarad "yn gyhoeddus am ei phrofiadau yn yr Holocaust, gan addysgu cenedlaethau'r dyfodol" gan ei disgrifio fel "ysbrydoliaeth o sut i ddefnyddio'ch llais i sicrhau daioni yn y byd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.